Wythnos o adloniant lliwgar a phleserus i’r teulu. Mae pobl o bob cenedl yn ymweld â Llangollen i gystadlu mewn dawns a chân… mae’n ddiogel i ddweud bod yr adloniant a’r profiad yn mynd i ehangu eich gorwelion, ac o naw i nawdeg mae yna rywbeth yno i siwtio pawb. Mae nifer o stondinau o amgylch y maes sydd yn gwerthu popeth o ddillad i ddodrefn i’r ardd, a chewch brofi blasau cynhyrfus bwyd amrywiol tu hwnt o’r India, i hufen ia lleol. Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn hynod o arbennig gan ein bod ni wedi cael heulwen, ond hyd yn oed os na fydd yr haul yn gwenu, mae lliwiau’r gwisgoedd, y wên ar wynebau pobl, a hwyliau da yr ymwelwyr yn gwneud yr wythnos yma’n un arbennig.
Wedi ehangu gorwelion