DARGANFOD TRYSOR CERDDORIAETH FYW YN LLANGOLLEN – MAE’R HELFA’N DYCHWELYD!

78 PÂR O DOCYNNAU AM DDIM I’W CAEL  

Gall ffans cerddoriaeth gael gafael ar y tocynnau mwyaf poblogaidd yn y dref wrth i Ogledd Cymru baratoi ar gyfer tymor anhygoel arall o gerddoriaeth fyw gyda “TK Maxx yn cyflwyno Yn Fyw ym Mhafiliwn Llangollen”  ac “ Eisteddfod Ryngwladol Llangollen”. 

Yr haf diwethaf, heidiodd mwy na 50,000 o gariadon cerddoriaeth i’r dref am fis o sioeau ysblennydd, ac mae’r cyffro’n dychwelyd y mis nesaf wrth i sêr byd-eang gan gynnwys Texas, Rag’n’Bone Man, James, The Script, Olly Murs, The Human League ac UB40 gydag Ali Campbell i gyd fynd i Fyw ym Mhafiliwn Llangollen  o Fehefin 26 i Orffennaf 5. 

Mae’r rhestr serol yn parhau gydag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o Orffennaf 8, gyda sioeau pennaf gan Syr Karl Jenkins, KT Tunstall, Il Divo, Beyond Time: The Music of Hans Zimmer, Côr y Byd  gyda’r gwestai arbennig Lucie Jones, a Bryn Terfel ynghyd â Fisherman’s Friends ac Eve Goodman. Mae’r ŵyl hefyd yn cynnig rhaglen ddyddiol lawn o gystadlaethau ac adloniant maes. 

I gychwyn y dathliadau, mae’r trefnwyr yn dod â’r helfa drysor hynod boblogaidd yn ôl, gan roi cyfle arall i ffans gael tocynnau AM DDIM ddydd Llun Mai 26. 

I nodi 78 mlynedd o’r ŵyl ryngwladol, bydd 78 pâr o docynnau am ddim yn cael eu cuddio mewn gwahanol leoliadau o amgylch maes Pafiliwn Llangollen. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Dave Danford: “Roedd helfa drysor y llynedd yn llwyddiant mawr– fe helpodd i greu hwyl yn y dref cyn haf gwirioneddol anhygoel felly roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud o unwaith eto.  Mae’n ffordd hwyliog o gychwyn pethau ac mae’n rhoi cyfle i ffans gael tocynnau i rai o’n sioeau mwyaf. 

 “Gydag artistiaid byd enwog a hud unigryw’r Eisteddfod, mae eleni’n mynd i fod yn rhywbeth arbennig. “Gadewch i’r helfa ddechrau!”  

Bydd yr Helfa Drysor yn rhedeg o 10am tan 2pm ddydd Llun Mai 26.  

Bydd 78 o amlen arbennig wedi’u cuddio o amgylch maes eiconig Pafiliwn Llangollen. Mae pob amlen yn cynnwys cod unigryw sy’n gysylltiedig â chyngerdd pennaf penodol neu’r Diwrnod Hwyl i’r Teulu.   

  • Rhai i ddarganfyddwyr lwcus ddod â’r amlen a’r cod i brif fynedfa’r Pafiliwn i gael eu pâr o docynnau. 
  • Terfyn o un pâr o docynnau’r pen. Rhaid hawlio tocynnau cyn i’r Pafiliwn gau am 2pm ddydd Llun Mai 26. 
  • Rhaid i bob person dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn. 
  • Pob lwc a hela hapus!