DR CYMRAEG I YMUNO Â’R “PANED A SGWRS “ CYNTAF  YM MHAFILIWN LLANGOLLEN

Mae’n bleser gan Eisteddfod  Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyhoeddi mai Doctor Cymraeg fydd y gwestai arbennig ar y noson Paned a Sgwrs gyntaf erioed yn y Pafiliwn. Trefnir y digwyddiad gan Gweithgor Iaith yr Eisteddfod  mewn partneriaeth â SGDSD  (Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych).

Doctor Cymraeg yw persona ar-lein Stephen Rule. Mae’n seren rhyngrwyd, yn adnabyddus am wneud yr iaith Gymraeg yn fwy hwyliog a hygyrch. Mae ei bostiadau deniadol, ei lawrlwythiadau am ddim a’i ddosbarthiadau meistr wedi denu dilyniant enfawr yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dyddiad: Dydd Mercher 15 Hydref 2025
Amser: 7pm-9pm
Lleoliad: Pafiliwn Llangollen, LL20 8SW

☕ Mynediad: Am ddim – ar agor i wirfoddolwyr yr Eisteddfod a’r gymuned gyfan

Dywedodd Stephen Rule (Doctor Cymraeg), “Rwyf mor falch o gefnogi’r Eisteddfod  Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Mae’n ddigwyddiad gyda hanes mor falch, ac rwy’n gyffrous i fod yn rhan o’i waith i ddathlu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y gymuned. Y syniad cyfan y tu ôl i Doctor Cymraeg erioed fu helpu pobl i sylweddoli nad oes angen i ddysgu’r iaith deimlo’n anodd nac yn fygythiol – gall fod yn bleserus, yn gymdeithasol, ac yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei rannu gyda’n gilydd. Mae Paned a Sgwrs yn union y math o leoliad hamddenol lle gall hynny ddigwydd, ac alla i ddim aros i ymuno â’r sgyrsiau yn Llangollen.”

Dywedodd Rhys Davies, Cyfarwyddwr y Bwrdd ac Arweinydd Iaith Gymraeg yr Eisteddfod, “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Doctor Cymraeg i Langollen. Mae ei bostiadau wedi creu cryn dipyn o sôn am yr iaith Gymraeg, gan ei gwneud hi’n hwyl ac yn hygyrch i bawb. Mae’r noson Paned a Sgwrs newydd hon yn ymwneud â hynny’n union – mwynhau’r Gymraeg gyda’n gilydd mewn lle croesawgar.”

Ym mis Mehefin, derbyniodd yr Eisteddfod gydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg, marc mawreddog sy’n tanlinellu ei phenderfyniad i ymgorffori’r Gymraeg ym mhob agwedd ar ei gwaith ac i greu cyfleoedd i bawb gymryd rhan.
Mae noson “Paned a Sgwrs” yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob gwifoddolwyr a’r gymuned gyfan – boed yn ddechreuwyr, yn ddysgwyr, neu’n siaradwyr rhugl – ac mae’n addo lleoliad hamddenol a chroesawgar i ymarfer yr iaith gyda’n gilydd dros baned.