NEPAL APPEAL | APÊL NEPAL | नेपाल सहायता अपिल

Rydym wedi ein syfrdanu gan faint y drychineb ddynol yn Nepal o ganlyniad i’r llifogydd sydyn dinistriol, ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt a’r wlad gyfan wrth iddynt geisio ymdopi â’r argyfwng.

Mae Ymddiriedolwr yr Eisteddfod, Karen Price, wedi trefnu Bore Coffi ar gyfer yfory, rhwng 10am a 12 canol dydd yn Adeilad y Cystadleuwyr ar faes yr Eisteddfod.

Bydd rhai gwobrau raffl gwych, cacennau hyfryd ac arwerthiant bric-a-brac. Bydd yr holl arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i ddarparu cymorth i’r bobl sydd wedi’u heffeithio drwy ddolen elusen arbennig a ddarparwyd gan un o’n gwirfoddolwyr, Bho Pradhan, sydd â chysylltiadau cryf o hyd â’i wlad enedigol, Nepal.

Fel arall, gallwch gyfrannu’n uniongyrchol at yr apêl yma:

https://gofund.me/b1f3c7857