Digwyddiadau

Dydd Mercher 3 Gorffennaf

Ni ddylid methu’r diwrnod llawn cyntaf o gystadlaethau wrth i’r corau Iau, Hŷn ac Ieuenctid gymryd y llwyfan. Bydd enillwyr y cystadlaethau hyn yn mynd drwodd i gystadlu yn y cyngerdd nos am deitl Côr Ifanc y Byd. Yn ymuno â ni hefyd mae grwpiau dawns gwerin Plant ynghyd â chystadleuwyr yr unawd lleisiol ac offerynnol.

More info

Dydd Iau 4 Gorffennaf

Heddiw yn y pafiliwn rydym yn cychwyn gyda’n cystadleuaeth ensemble Offerynnol. Gydag amrywiaeth hyfryd o ensembles o bob rhan o’r byd mae’n siŵr o’ch paratoi ar gyfer diwrnod llawn o gystadlaethau. Gyda rowndiau terfynol Dawns, Corau Plant ac unawdau Offerynnol mae’n ddiwrnod na ddylid ei fethu!

More info

Dydd Gwener 5 Gorffennaf

Ymunwch â ni am ddiwrnod gwerth chweil yn y Pafiliwn gyda Chorau Cymysg, Siambr ac Alaw Werin i Oedolion. Rowndiau olaf ein hunawdau Lleisiol ac Offerynnol a’r grwpiau dawns â Choreograffi/arddull yn ogystal â chyflwyno ein cystadleuaeth Dawns Unigol (unawd, deuawd, triawd) newydd sbon. Diwrnod na ddylid ei fethu!

More info

Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf

Eleni rydym wedi symud ein cystadleuaeth Band Cymunedol, i’r prif lwyfan. Mae’n mynd i fod yn ysblennydd! Heddiw bydd ein Corau Meibion, Llais Benywaidd ac Agored yn brwydro yn barod ar gyfer rownd derfynol Côr y Byd fin nos. Pwy fydd ein pencampwr yn 2024? Byddwn hefyd yn gweld amrywiaeth o ensembles dawns gwahanol gyda Dawns Llangollen. Bydd y Neges Heddwch (o’n Diwrnod Y Plant) ymlaen heddiw hefyd, gan roi cyfle i’r rhai nad oedd yn gallu ei gweld y tro cyntaf i’w gweld eto.

More info

Friday 21 June 2024
Paloma Faith

(English) Friday 21 June 2024 – 7.30pm

Double platinum and BRIT award-winning artist Paloma Faith will head to North Wales this summer as part of her The Glorification Of Sadness Tour 2024 tour.

More info