Ymunwch â ni o 4.30pm wrth i’r orymdaith liwgar ddychwelyd i strydoedd Llangollen
Dan arweiniad disgyblion ysgolion lleol a Band Arian Llangollen, bydd cystadleuwyr a pherfformwyr o bedwar ban y byd yn gorymdeithio drwy’r dref mewn dathliad o gerddoriaeth, diwylliant a chyfeillgarwch rhyngwladol
Amser yr orymdaith: 4.30pm – 5.30pm
Llwybr:
Gan ddechrau o Faes yr Eisteddfod, bydd yr orymdaith yn teithio ar hyd Ffordd yr Abaty, dros y bont, a thrwy ganol y dref cyn dychwelyd i’r Maes.
Cau ffyrdd:
Ni chaniateir parcio ar hyd llwybr yr orymdaith drwy’r dydd. Bydd cau ffyrdd yn dechrau o 3.00pm, a dim symudiad cerbydau o 4.00pm ymlaen. Bydd ffyrdd yn ailagor yn raddol wrth i’r orymdaith basio
Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’r lleoedd gwylio gorau ac ymunwch â ni ar gyfer un o draddodiadau hoffus yr Eisteddfod








