Mae un o berfformwyr mwyaf poblogaidd Prydain yn dychwelyd i Langollen fel rhan o ddathliadau pen-blwydd 80fed yr Eisteddfod.
Bydd Jools Holland a’i “Rhythm & Blues Orchestra” yn dod â’u sioe fyw glodwiw i’r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen ddydd Iau 8 Gorffennaf 2027, gan gyflwyno’r cymysgedd bywiog o rhythm & blues, boogie-woogie, JASS a roc-a-rôl sydd wedi eu gwneud yn un o’r artistiaid teithiol mwyaf llwyddiannus yn y DU.
Yn ymuno â Jools bydd y gantores bwerus Ruby Turner, ochr yn ochr â chantorion hirsefydlog y gerddorfa, Louise Marshall a Sumudu Jayatilaka, ar gyfer noson yn llawn caneuon clasurol, cerddoriaeth o’r radd flaenaf ac egni heintus.
Mae gan Jools hanes hir a llwyddiannus gyda Llangollen, ar ôl perfformio i filoedd o bobl mewn Eisteddfodau blaenorol, ac mae ei ddychweliad fel Is-lywydd yr Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau’r rhaglen ddathlu.









