Eisteddfod Llangollen yn lansio cystadleuaeth ryngwladol i gantorion ifanc gorau’r byd

Mae cystadleuaeth fyd-eang wedi cael ei lansio i ddod o hyd i sêr canu rhyngwladol newydd. Cystadleuaeth fawreddog Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine fydd un o brif uchafbwyntiau Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen sy’n dechrau ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 7.

Nod cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine a ddechreuodd yn 2013 yw hyrwyddo gyrfaoedd cantorion ifanc mwyaf dawnus y byd.

Mae’r gystadleuaeth unwaith eto yn cael ei noddi gan Parc Pendine, y sefydliad gofal sy’n caru’r celfyddydau, drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, a sefydlwyd i gefnogi mentrau diwylliannol a chymunedol ledled Cymru.

Cyflwynir Tlws Pendine i’r enillydd – plât arian hardd – ynghyd â gwobr o £3,000 tra bydd y sawl sy’n dod yn ail yn derbyn siec am £1,000.

Mae’r gystadleuaeth wedi cael hwb enfawr ar ôl i Pendine addo parhau i’w chefnogi am y pum mlynedd nesaf.

Y dyddiad cau yw Mawrth 12 ac mae ceisiadau i gystadlu bellach yn cael eu derbyn, a gellir dod o hyd i ragor o fanylion am sut i gystadlu yn https://eisteddfodcompetitions.co.uk.

Wrth ddiolch i Mario a’i wraig, Gill, am eu cefnogaeth, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Dave Danford, ei fod yn ddechrau gwych i’r flwyddyn newydd ac yn hwb mawr i’r paratoadau ar gyfer gŵyl eleni.

Mae cantorion talentog o bob cwr o’r byd sydd wedi ennill y gystadleuaeth mewn blynyddoedd blaenorol wedi ei chanmol fel carreg gamu amhrisiadwy i’w helpu i gyflawni eu breuddwydion cerddorol.

Yn eu plith mae dau gyn-enillydd, Shimona Rose, o Singapôr, ac Eirlys Myfanwy Davies o Dde Cymru, a fydd yn dychwelyd fel sêr yr ŵyl eleni ar y noson agoriadol gan berfformio yn llwyfaniad hir-ddisgwyliedig cyngerdd Uno Cenhedloedd: Un Byd (‘Uniting Nations: One World’).

Bydd Shimona ac Eirlys yn canu’n unigol yng nghyngerdd Un Byd, dan arweiniad Syr Karl Jenkins sydd hefyd wedi cyfansoddi’r gwaith.

Hefyd yn cymryd rhan bydd côr torfol o fwy na 100 o gantorion o WorldChoir a NEW Voices ynghyd â Cherddorfa Ryngwladol Llangollen.

Dywedodd Dave Danford: “Mae llwyddiant eithriadol Shimona ac Eirlys yn crisialu’r gwahaniaeth y gall cystadlu yng nghystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine ei wneud i gantorion ifanc ar ddechrau eu gyrfa.”

“Mae wedi ennill enw da ledled y byd fel un o’r cystadlaethau mwyaf nodedig mewn cerddoriaeth glasurol.

“Nid yn unig y mae cystadleuwyr yn cael y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr yn un o wyliau gwerin mwyaf Ewrop, ond i lawer mae wedi bod yn fan cychwyn i yrfa broffesiynol lwyddiannus mewn opera neu gerddoriaeth glasurol.

“Mae’r wobr gyntaf o £3,000 yn gymorth aruthrol i unrhyw ganwr ifanc sy’n dechrau. Mae’n mynd yn bell tuag at eu hariannu trwy goleg cerddoriaeth, hyfforddiant ôl-raddedig neu i hyrwyddo eu gyrfaoedd.

“Rydym yn gyffrous iawn am yr hyn y bydd y gystadleuaeth eleni yn ei amlygu o ran doniau sydd heb eu darganfod eto.

“Rydym yn gwybod o brofiad y gorffennol bod yna rai cantorion gwych allan yna yn aros am y cyfle i gamu ar y llwyfan a dangos i’r byd beth allan nhw ei wneud – rydym yn eu hannog i ddod ymlaen a chymryd rhan yng nghystadleuaeth 2026.

“P’un a yw’r cystadleuwyr yn dod o lawr y ffordd yma yng Nghymru, neu o Ewrop, Asia neu America, rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw gantorion sy’n breuddwydio am y cyfle i wneud gyrfa oes o gerddoriaeth.”

Dywedodd Mario Kreft: “Mae’r gystadleuaeth hon yn cyd-fynd yn berffaith â’n hethos yn Parc Pendine lle rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 40 oed.

“Mae’r celfyddydau yn gyffredinol a cherddoriaeth yn arbennig yn llinyn arian sy’n rhedeg trwy bopeth rydym yn ei wneud i gyfoethogi bywydau ein preswylwyr a’n staff fel ei gilydd, a gall chwarae rhan hynod bwysig mewn gofal cymdeithasol ehangach.”

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd gynnwys recordiad sain neu fideo o’u hunain a phrawf oedran gyda’u cais.

Rhaid i gystadleuwyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth. Mae’n ofynnol iddynt berfformio rhaglen gyferbyniol o hyd at saith munud ar gyfer eu rowndiau rhagbrofol, a hyd at ddeg munud ar gyfer y rownd derfynol.

Dylai’r rhaglenni gynnwys gweithiau o oratorio, opera, lieder, neu gân, a dylent gael eu  canu yn eu hiaith wreiddiol.

Bydd gofyn i’r cystadleuwyr gymryd rhan yn y rownd ragbrofol a’r rownd gynderfynol, ac mae disgwyl i ddau ganwr gael eu dewis ar gyfer y noson fawr olaf a fydd yn ddiweddglo i wythnos yr Eisteddfod ar ddydd Sul, Gorffennaf 12.

Y dyddiad cau yw Mawrth 12, ac ar ôl hynny bydd panel dethol yn ystyried y ceisiadau ac yn dewis tua 25 o gantorion a fydd yn cael eu gwahodd i fynd ymlaen i gymryd rhan yng nghystadleuaeth eleni.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill yr Eisteddfod eleni mae ymddangosiadau gan Michael Ball, Emeli Sandé a Phrosiect Cerddorfaol Qawwali.

Am fanylion ynglŷn â sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ewch i https://eisteddfodcompetitions.co.uk ac am raglen lawn yr eisteddfod a sut i brynu tocynnau ewch i https://llangollen.net