Ysgrifennydd Gwladol yn pwysleisio pwysigrwydd ‘unigryw’ Eisteddfod  Ryngwladol Llangollen i Ogledd Cymru

Mae Eisteddfod  Ryngwladol Llangollen yn ŵyl unigryw sy’n bwysig iawn i’r dref sy’n ei chynnal, ond hefyd i economi Gogledd Cymru gyfan. Dyna oedd neges Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS, pan ymwelodd â’r Eisteddfod.

Ymwelodd Ms Stevens fel Llywydd y Dydd ar wahoddiad Cadeirydd yr Eisteddfod, John Gambles. Gwelont ei gilydd ddiwethaf 40 mlynedd yn ôl pan gasglodd Ms Stevens ei chanlyniadau Lefel A gan John a’i dysgodd. Cysylltiad arall â’r Eisteddfod  oedd bod ei mam wedi cystadlu’n llwyddiannus ym 1973 yng nghystadleuaeth y côr cymysg gyda Chantorion Penarlâg.

Cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd wedi bod yn Aelod Seneddol Llafur yng Nghaerdydd ers 2015, daith dywys o amgylch y safle, gan gwrdd â chystadleuwyr, ymwelwyr a’r nifer o wirfoddolwyr sy’n gwneud yr ŵyl yn bosibl bob blwyddyn.

Dywedodd: “Roeddwn i wir yn awyddus i weld sut mae’r drefn gyfan yn gweithio oherwydd ei bod yn dibynnu cymaint ar ei gwirfoddolwyr anhygoel, y cyfarfûm â llawer ohonynt heddiw. Mae’r eisteddfod mor drawiadol ac mae ganddi enw da o’r fath am yr ystod eang o berfformwyr o bob cwr o’r byd.”

Ychwanegodd: “Rwy’n credu bod yr ŵyl yn unigryw. Mae ganddi hanes mor arbennig oherwydd y ffordd y dechreuodd, gan ddod allan o’r Ail Ryfel Byd, gyda’i neges o heddwch. Mae ei diwylliant a’i cherddoriaeth yn dod â phobl ynghyd o bob cwr o’r byd ac mae hynny’n ei gwneud yn ŵyl unigryw.

“Yn amlwg mae’n bwysig iawn i Langollen ond hefyd i economi Gogledd Cymru gyfan. Mae pobl yn dod o lawer o wledydd. Rydym yn genedl mor groesawgar a gobeithio y bydd pobl sydd wedi bod i Langollen  yn dod eto ac yn ymweld â gwahanol rannau o Gymru hefyd.

“Mae’r ffaith bod yr Eisteddfod  wedi goroesi cyhyd, yn enwedig gydag effaith y pandemig, pan syrthiodd llawer o wyliau wrth ymyl y ffordd, yn glod go iawn i’r bobl sy’n ei rhedeg a’r holl wirfoddolwyr.”