

Cafodd gweddw y maestro opera Luciano Pavarotti ei chludo yn ôl mewn amser gan ddanteithion blasus a ddaeth ag atgofion iddi o’i hymweliad cyntaf ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Cafodd Nicoletta Mantovani deisennau bychain siocled gwyn a mefus blasus mewn derbyniad cyn cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine ar noson olaf yr ŵyl lle roedd hi’n nodi dathliad dwbl emosiynol.
Oherwydd mae’n 70 mlynedd ers i’r Luciano ifanc berfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Llangollen gyda chôr ei dad, Corws Rossini, yn 1955, ac mae hefyd yn 30 mlynedd ers iddo ddychwelyd fel seren ryngwladol yn 1995 pan ganodd mewn cyngerdd mawreddog yn yr ŵyl.
Cofiodd Nicoletta sut roedd ei diweddar ŵr wedi mwynhau’r fwydlen flasus a weinwyd iddo gan ‘Dai Chef’ yn ystod ei arhosiad yng ngwesty Bryn Howell, Llangollen yn 1995.
Yn ôl Dai, ei deisennau siocled gwyn a mefus a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur oedd un o hoff ddanteithion y cawr operatig bryd hynny.
Cafodd Nicoletta, sydd bellach wedi ailbriodi â’r ymgynghorydd ariannol Alberto Tinarelli, gyfle i flasu ail-gread o’r teisennau bychain hynny pan wnaeth daith arbennig i ogledd Cymru i ddathlu dau ymddangosiad Pavarotti yng ngŵyl Llangollen.
Trefnwyd yr atgof meddylgar gan Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill, perchnogion sefydliad gofal Parc Pendine sy’n rhoi pwyslais mawr ar y celfyddydau gan noddi’r gystadleuaeth drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine (PACT).
Cafodd y danteithion blasus eu gweini yn ystod derbyniad cyn y gystadleuaeth a’r cyngerdd dilynol, gyda Syr Bryn Terfel a Fishermen’s Friends, y cantorion o Gernyw – cyngerdd a gefnogwyd hefyd gan PACT.
Aeth Mario a Gill Kreft hefyd ar daith gyda Nicoletta ac Alberto ar y trên o Gorwen i Langollen wedi iddynt gyrraedd y dref lle ‘mae Cymru’n croesawu’r byd’ ddydd Gwener diwethaf.
Cafodd y teisennau bychain eu creu mewn arddull canapé gan Keith Tapping, cogydd enwog Gwesty’r Wild Pheasant yn Llangollen, a fu hefyd yn gyfrifol am ddarparu’r arlwy ar gyfer y derbyniad a gynhaliwyd i groesawu Nicoletta a gwesteion eraill.
Fel rhan o’r digwyddiad cafodd y teisennau siocled gwyn a mefus eu gweini fel ffordd o gofio ymweliad Luciano yn 1995 ac, wrth eu blasu, dywedodd Nicoletta ei fod fel teithio yn ôl mewn amser.
Dywedodd: “Maen nhw’n edrych yn dlws, ac mor felys a blasus. Ond nid y teisennau yn unig sy’n dlws, mae’r atgofion sy’n dod gyda nhw hefyd yn hyfryd.
“Gall cymaint o atgofion gael eu sbarduno gan ein synhwyrau blasu ac arogli, a phan flasais i’r rhain roedd fel bod nôl yn 1995.
“Roedd yn rhywbeth meddylgar iawn i ailgreu pryd y gwnaeth Luciano ei fwynhau’n fawr. Roedd gan Llangollen a’r Eisteddfod Ryngwladol le arbennig yn ei galon bob amser ac rwy’n falch iawn o fod yn ôl yma i brofi’r ŵyl eto 30 mlynedd yn ddiweddarach.”
Yn gweini’r teisennau bach i Nicoletta a gwesteion eraill yr oedd Moli Jones, cynorthwyydd cyffredinol yn y Wild Pheasant, a ddywedodd ei bod wrth ei bodd i fod yn gweithio ar achlysur mor fawreddog.
Dywedodd Moli, 17 oed, sy’n dod yn wreiddiol o’r Bala, ond sydd bellach yn byw yn Llangollen: “Mae hwn yn achlysur gwych, gyda chymaint o westeion adnabyddus.
“Mae wedi bod yn bleser gweini ein bwydlen iddyn nhw. Rwyf bob amser wedi bod yn falch o’r ethos cymunedol a gynhyrchir gan Eisteddfod Llangollen. Rwyf wedi bod yma gymaint o weithiau ac mae gen i ffrindiau a chymdogion sydd wedi gwirfoddoli yma yn y gorffennol. Mae’n ddigwyddiad mor wych i fod yn rhan ohono ac mae bob amser yn creu atgofion hudolus i unrhyw un sy’n dod yma.”
Dywedodd Becky Shields, rheolwr cyffredinol gwesty’r Wild Pheasant, sy’n rhan o grŵp Everbright: “Mae wedi bod yn fraint i ni ddarparu ar gyfer achlysur mor arbennig fel hwn sy’n rhan o ŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop.”
Daeth yr achlysur hefyd ag atgofion yn ôl i Mario a Gill Kreft a welodd ymweliad Pavarotti â’r Eisteddfod Ryngwladol yn 1995.
Roedd y cwpl ymhlith y rhai oedd yn gwylio ei gyngerdd ar sgrin enfawr ar Faes yr Eisteddfod.
Ar ôl y gystadleuaeth, cyflwynodd Nicoletta dlws arian hardd a gwobr o £3,000 i’r tenor Andrew Henley a fu’n fuddugol yn y gystadleuaeth.
Ymhlith gwesteion eraill yn y derbyniad cyn y cyngerdd yr oedd cyn-lywydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Syr Terry Waite.