Mae’r Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen wedi lansio cyfle comisiynu newydd mawr i gyfansoddwyr sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Mae’r prosiect hwn wedi’i wneud yn bosibl diolch i gefnogaeth sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y mae ei ymrwymiad wedi galluogi’r ŵyl i ehangu ei buddsoddiad mewn cerddoriaeth newydd a thalent greadigol.
Mae’r fenter newydd,‘Harmoni Heb Ffiniau’, yn gwahodd cyfansoddwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa ac a aned yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru, neu sy’n astudio yng Nghymru i wneud cais am gomisiwn â thâl o £6,000 i greu gwaith dwyieithog chwe munud ar gyfer côr a cherddorfa. Darperir manylion llawn yn y briff sydd ynghlwm.
Bydd y darn a gomisiynwyd yn cael ei berfformiad cyntaf yn y byd ddydd Mawrth 7 Gorffennaf 2026 fel rhan o gyngerdd agoriadol blaenllaw’r Eisteddfod, Uno’r Cenhedloedd: Un Byd, canolbwynt rhaglen artistig 2026. Mae’r noson arbennig hon, gyda Syr Karl Jenkins yn arwain ei waith pwerus One World , yn agor Eisteddfod 2026 gyda neges o undod, adnewyddiad a chydweithio byd-eang, gan ei gwneud yn lleoliad perffaith ar gyfer y comisiwn Cymreig newydd mawr hwn.
Disgwylir i’r gwaith agor gyda ffanffer cerddorfaol feiddgar, gan symud ymlaen i ysgrifennu corawl mynegiannol yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda’r opsiwn o gynnwys ieithoedd ychwanegol. Gall cyfansoddwyr sy’n dymuno cydweithio â chyfansoddwr geiriau wneud cais am gymorth ariannol sydd wedi’i gynnwys yn y comisiwn
Bydd y Cyfarwyddwr Artistig yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr, gyda’r dewis terfynol yn cael ei wneud gan banel o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae’r comisiwn ar agor i gyfansoddwyr 18 oed a hŷn, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r rhai sydd ar ddechrau eu taith broffesiynol.
Dywedodd John Gambles, Cadeirydd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen,“Rydym wrth ein bodd yn lansio Harmoni Heb Ffiniau, prosiect sy’n adlewyrchu ein hymroddiad i feithrin talent creadigol Cymru a dathlu ieithoedd cerddorol ein cenedl. Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, y mae ei ymrwymiad wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn gwaith newydd ar raddfa sy’n deilwng o’n llwyfan rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at groesawu cyfansoddwr newydd i deulu’r Eisteddfod a rhannu eu cerddoriaeth gyda’r byd ym mis Gorffennaf 2026.”
Dywedodd Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig, “Mae’r comisiwn hwn yn cynnig cyfle gwych i gyfansoddwr Cymreig sy’n dod i’r amlwg greu gwaith a fydd wrth wraidd un o’n cyngherddau mwyaf arwyddocaol yn 2026. Rydym yn chwilio am rywun sydd â dychymyg, uchelgais ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth gerddorol. Gyda chôr, cerddorfa a chynulleidfa fyd-eang wrth law, bydd gan y cyfansoddwr llwyddiannus lwyfan pwerus i arddangos ei lais. Fedra i ddim aros i weld y syniadau sy’n dod i’r amlwg.”
Dyddiadau Allweddol
- 19 Rhagfyr 2025 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
- 9 Ionawr 2026 – Hysbysu’r cyfansoddwr
- 6 Mawrth 2026 – Drafft cyntaf yn ddyledus
- 31 Mawrth 2026 – Drafft terfynol yn ddyledus
- 7 Gorffennaf 2026 – Première byd yn Llangollen
Gall cyfansoddwyr wneud cais drwy lenwi’r ffurflen ganlynol: https://forms.gle/1hua1LGPJZ7dzfEa6
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at composers@llangollen.net gyda’r llinell bwnc “Harmony Without Borders”.








