Bydd Tŷ Pawb, lleoliad diwylliannol aml-wobrwyedig Wrecsam, ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cydweithio i gyflwyno cyfres o gyngherddau arbennig AM DDIM yn Wrecsam dros yr haf.
Bydd y cyngherddau yn cynnwys detholiad o berfformwyr o raglen Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni, gan gynnwys corau lleol, grŵp dawns salsa, cerddorfa iwcalili a band drymiau dur.
Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i roi cynnig ar un o offerynnau cerdd traddodiadol mwyaf adnabyddus Cymru mewn gweithdy ‘Rhowch Gynnig ar y Delyn’, a gynhelir gan Cambrian Harps.
Bydd y cyngherddau’n cael eu cynnal yng Nghwrt Bwyd Tŷ Pawb amser cinio rhwng dydd Sadwrn 27 Mehefin a dydd Mercher 8 Gorffennaf. Gweler y rhaglen lawn isod.
Dod ag awyrgylch carnifal i galon Wrecsam
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Dŷ Pawb:
“Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r gyfres newydd hon o gyngherddau, sydd wedi bod yn bosibl diolch i bartneriaeth rhwng dau o brif ganolfannau diwylliannol Gogledd Cymru.
“Bellach yn ei 79fed flwyddyn, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei hystyried yn un o wyliau diwylliannol mwyaf ysbrydoledig y byd, gan ddenu degau o filoedd o ymwelwyr a pherfformwyr o bob cwr o’r byd i’n rhan ni o Ogledd Cymru bob blwyddyn.
“Mae’r gyfres o gyngherddau yn Nhŷ Pawb yn addo dod â blas o awyrgylch carnifal yr Eisteddfod i Wrecsam, a bydd yn gyfle gwych i gael rhagflas o’r hyn sydd i ddod yn yr ŵyl eleni. Gobeithio y bydd pobl Wrecsam yn manteisio ar y cyfle i ddod draw a mwynhau. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r holl berfformwyr a thîm yr Eisteddfod am weithio gyda ni i drefnu’r perfformiadau hyn.”
Arddangos talent gerddorol Gogledd Cymru
Dywedodd Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen:
“Rydym yn falch iawn o gydweithio â Thŷ Pawb i ddod â blas o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i galon Wrecsam. Un o’r pethau sy’n gwneud yr Eisteddfod mor arbennig yw’r ffordd y mae’n dod â phobl ynghyd drwy gerddoriaeth, dawns a chyfnewid diwylliannol, ac mae’r perfformiadau rhad ac am ddim hyn yn cynnig cyfle gwych i brofi rhywfaint o’r ysbryd hwnnw cyn gŵyl eleni.
“Rydym yn arbennig o falch bod y rhaglen yn cynnwys perfformwyr lleol ochr yn ochr â grwpiau sy’n gysylltiedig â’r Eisteddfod, gan dynnu sylw at gyfoeth y dalent gerddorol sydd gennym yma yng Ngogledd Cymru. Gobeithiwn y bydd y digwyddiadau hyn yn annog cefnogwyr presennol a chynulleidfaoedd newydd fel ei gilydd i ddarganfod popeth sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig yr haf hwn.”
Rhaglen lawn
Dydd Sadwrn 27 Mehefin
12.30pm
Côr The James Lambert Singers
Bydd y perfformiad hwn yn rhan o Ddiwrnod Hwyl i’r Teulu AM DDIM Tŷ Pawb.
Dydd Llun 29 Mehefin
12.00pm
Grŵp Iwcalili Ozukes U3A
Dydd Iau 2 Gorffennaf
12.00pm
Clywedog Steel Pans
Dydd Gwener 3 Gorffennaf
4.00pm
Gweithdy ‘Rhowch Gynnig ar y Delyn’ gyda Cambrian Harps *
Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf
12.00pm
Lleisiau Clywedog
Dydd Mercher 8 Gorffennaf
12.00pm
Dosbarthiadau Dawns Karen – Gweithdy Salsa *








