Daeth criw o blant rheilffordd hapus eleni, a deithiodd ar drên diesel hen ffasiwn, o Ysgol Corwen ac Ysgol Carrog.
Yn draddodiadol, byddai pobl ifanc o ardaloedd Corwen a Charrog yn dod ar y trên o’u gorsafoedd lleol i ddiwrnod plant yr Ŵyl yn y 1960au cynnar, ond daeth Dr Beeching â’r hwyl i ben pan ddiddymodd y lein rhwng Rhiwabon ac Abermaw yn gynnar yn y 1960au.
Ond diolch i adfywiad y llwybr fel llinell dreftadaeth lewyrchus, llwyddodd yr Eisteddfod i gydweithio â Rheilffordd Llangollen a Chorwen i ddod â’r daith flynyddol yn ôl yn fyw yn 2019.
Daeth criw o blant rheilffordd hapus eleni, a deithiodd ar drên diesel hen ffasiwn, o Ysgol Corwen ac Ysgol Carrog.
Ar ôl mynd ar y trên yng Ngorsaf Corwen, fe wnaethon nhw dreulio pob milltir o’r daith i Langollen lle cyrhaeddon nhw ychydig ar ôl 9am, gan chwifio at ffenestri’r cerbydau.
Ar y platfform, cawsant eu cyfarch yn swyddogol gan bobl o’r Eisteddfod a’r rheilffordd ac roedd amser i gael lluniau – a hyd yn oed cwpl o ganeuon gan y plant – cyn iddynt gael eu harwain o’r orsaf i faes yr Eisteddfod am ddiwrnod llawn cyffro.
Dywedodd Ian Lebbon o’r Eisteddfod , sy’n trefnu’r teithiau teimladwy hyn:
“Rydym yn eu gweld fel rhai hynod bwysig i’r bobl yn y cymunedau ar ben arall y llinell dreftadaeth, lle mae’r rheilffordd yn rhan o’u bywydau bob dydd.
“Mae’r rheilffordd, wrth gwrs, yn un o dair priffordd fawr y dyffryn, ynghyd ag Afon Dyfrdwy a ffordd yr A5. Ni fydd llawer o’r plant hyn erioed wedi teithio ar drên o’r blaen, yn enwedig un mor wych â’r un treftadaeth y daethant arno heddiw.
“Mae hefyd yn dda iddyn nhw allu gweld a mwynhau’r Eisteddfod. Bydd llawer ohonyn nhw’n dod i’r ŵyl am y tro cyntaf ac rydym yn gobeithio y byddan nhw’n dod yn ymwelwyr rheolaidd.”
Dywedodd Becky Mollison-white, prifathro dirpwy Ysgol Carrog: “Roedd yn brofiad anhygoel i’r plant o’r ddwy ysgol ac roedden nhw i gyd yn gyffrous iawn amdano.
“Mae gan Gorwen a Carrog orsafoedd ar y llinell dreftadaeth ac roedd y plant yn hapus iawn am gael y cyfle i deithio arni.”
Yn helpu i arwain y plant i’r maes oedd grŵp o bobl ifanc o Ysgol Dinas Brân yn Llangollen ac Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam sy’n gweithio yn yr Eisteddfod bob blwyddyn fel Croesawyr, rhywbeth y mae Ian Lebbon yn dweud ei fod yn ei weld fel cyfle gwych i hybu eu rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.








