Archifau Tag Côr o Ynys Môn yn ennill cystadleuaeth y plant yn yr Eisteddfod Ryngwladol

Côr o Ynys Môn yn ennill cystadleuaeth y plant yn yr Eisteddfod Ryngwladol

Daw pencampwyr Côr Ieuenctid Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o Ynys Môn.

Enillodd Côr Ieuenctid Môn y wobr gyntaf yn dilyn cystadleuaeth galed rhwng wyth côr o Gymru a Lloegr.

Wrth wylo gyda llawenydd fe gasglodd cyfarwyddwr cerddorol ac arweinydd y côr, Mari Lloyd Pritchard, y tlws rhyngwladol a siec am £500 gan Enid Evans, 94 oed, o Fryste, a roddodd y tlws a’r wobr ariannol er cof am ei brawd, H Wyn Davies MBE a’i wraig Muriel. (rhagor…)