Archifau Tag Parade

PARÊD CENHEDLOEDD YR EISTEDDFOD AR 3 GORFFENNAF

Dancers in Parade

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi y bydd ‘Parêd y Cenhedloedd’ enwog yn cael ei chynnal yn y dref ddydd Mercher, 3 Gorffennaf am 4.30yp. Gall ymwelwyr ddisgwyl sioe liwgar gan y bydd grwpiau o gyn belled i ffwrdd â Burundi, Canada, Tsieina, Ghana, India, Japan, Malaysia, Moroco, Singapôr, De Affrica, Tansania, Gwlad Thai, Trinidad a Tobago, UDA a Simbabwe yn cymryd rhan – ochr yn ochr â dwsinau o grwpiau o’r DU. 

Daw’r parêd, un o rannau canolog Eisteddfod graidd Llangollen lai na 24 awr ar ôl i Syr Tom Jones wneud ei ymddangosiad cyntaf hir-ddisgwyliedig yn yr ŵyl. Bydd yn cael ei ddilyn gan barti enfawr ar faes yr Eisteddfod, lle gall ymwelwyr fynd ar y maes am bunt! Yna bydd sêr gwerin Cymru, Calan, yn arwain cyngerdd ‘Cymru’n Croesawu’r Byd’ yn y Pafiliwn, gyda Chorws Bechgyn Johns’ Boys, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent a’r Delynores Frenhinol Alis Huws, ochr yn ochr â Cherddorfa Ryngwladol Llangollen.

Dywedodd John Gambles, Is-Gadeirydd yr ŵyl, “Eleni, ein parêd fydd y mwyaf ers blynyddoedd. Mae gennym ni gystadleuwyr rhyngwladol anhygoel o bob rhan o’r byd yn dod i’n tref ym mis Gorffennaf. Mae Parêd y Cenhedloedd yn un o’n digwyddiadau mwyaf poblogaidd ac fe’i dilynir gan ddathliad enfawr ar ein maes wrth i ni wir groesawu’r Byd i Gymru.”

Arweinir y Parêd gan Seindorf Arian Llangollen a Chrïwr Tref Llangollen, Austin “Chem” Cheminais. Yn 2023, aeth miloedd o drigolion i’r strydoedd, ac eleni bydd hyd yn oed mwy o gyfranogwyr a lliwiau. Yn 2024 mae wythnos graidd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 2-7 Gorffennaf, gyda chyngherddau cyn ac ar ôl yn cynnwys artistiaid mor amrywiol â Jess Glynne, Manic Street Preachers, Madness, a Paloma Faith.

Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, fydd yn goruchwylio’r digwyddiad. Meddai, “Eleni, mae proffil ein gŵyl wedi mynd drwy’r to. Mae ein partneriaeth gyda Cuffe & Taylor yn golygu ein bod yr haf hwn yn dod ag artistiaid gwirioneddol ryngwladol i Langollen, megis Bryan Adams, a Nile Rodgers & Chic. Mae wythnos graidd yr Eisteddfod yn parhau i fod yn rhan ganolog o bopeth yr ydym yn ei wneud, a dyna pam ein bod yn dod â’n parêd ymlaen, i’w gynnal ar y diwrnod y byddwn yn croesawu’r Byd i Gymru.”