Mae’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyflwyno ei rhaglen gystadlu ar gyfer 2027, wrth i baratoadau ar gyfer pen-blwydd arbennig yr ŵyl yn 80 oed ennill momentwm.
Rhwng dydd Mercher 7 a dydd Sul 11 Gorffennaf 2027, bydd cantorion, corau, offerynwyr a dawnswyr o bob cwr o’r byd yn teithio unwaith eto i Ogledd-ddwyrain Cymru i gystadlu, perfformio a rhannu eu diwylliant yn un o wyliau cerddoriaeth a dawns rhyngwladol enwocaf y byd.
Mae cystadlaethau wedi bod wrth wraidd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers ei sefydlu ym 1947, ac mae’r rhaglen sydd newydd ei chyhoeddi yn cyfuno rhai o draddodiadau mwyaf nodedig yr ŵyl â nifer o newidiadau a chyfleoedd newydd ar gyfer ei phen-blwydd yn 80 oed.
Ymhlith y datblygiadau ar gyfer 2027 mae cystadleuaeth newydd i Ensemble Lleisiol Bach, sy’n agored i grwpiau o ddim mwy na 15 o leisiau, gan gynnwys corau, ensembles, deuawdau, triawdau a phedwarawdau. Mae’r gystadleuaeth Corau Agored hefyd wedi’i hehangu, gan ganiatáu i gorau gyflwyno cerddoriaeth o un genre neu gymysgedd o arddulliau.
Yn dilyn yr ehangu sylweddol ar gystadlaethau dawns a gyflwynwyd ar gyfer 2026, bydd y rhaglen amrywiol yn dychwelyd yn 2027, gyda dosbarthiadau unigol a deuawd/triawd yn cwmpasu bale, dawns gyfoes a ‘lyrical’, jass, tap a dawns fodern, “commercial” , hip-hop a dawns stryd, yn ogystal â dawnsio neuadd a dawnsio cymdeithasol.
Ar gyfer y flwyddyn arbennig hon, bydd y cystadlaethau dawns yn cael eu cynnal dros y dyddiau Sadwrn a Sul, yn hytrach na chael eu canolbwyntio ar un diwrnod yn unig. Mae hyn yn golygu y bydd ymwelwyr sy’n mynychu unrhyw un o ddyddiau’r penwythnos yn gallu mwynhau cymysgedd llawer ehangach o gystadlaethau corawl, lleisiol a dawns drwy gydol y dydd. Bydd y rhaglen ddawns unigol a deuawd/triawd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Gorffennaf. Mae newidiadau hefyd i’r cystadlaethau offerynnol, gyda chyfleoedd ar wahân ar gyfer ensembles offerynnol siambr o hyd at chwech o gerddorion ac ensembles offerynnol mwy o saith perfformiwr neu ragor, gan greu cyfleoedd i grwpiau o feintiau ac arddulliau cerddorol gwahanol iawn gymryd rhan.
Bydd perfformwyr ifanc unwaith eto yn chwarae rhan bwysig yn yr Eisteddfod. Mae cystadlaethau Côr Plant Iau, Côr Plant Hŷn a Chôr Plant Agored yn dychwelyd, gyda pherfformiadau yn y categorïau hynny yn cael eu hymestyn i hyd at wyth munud, tra bydd y teitl ‘Côr Ifanc y Byd’ a gwobr ychwanegol o £750 yn cael eu cyflwyno mewn seremoni arbennig yn ystod rhaglen ddydd Iau.
Bydd cystadleuaeth fawreddog yr Eisteddfod, ‘Côr y Byd’, unwaith eto yn dod â buddugwyr cystadlaethau corawl oedolion Llangollen ynghyd ar y noson olaf, pryd y byddant yn cystadlu am Dlws Pavarotti a gwobr o £3,000.
Mae cystadleuaeth ‘Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine’ hefyd yn dychwelyd, gyda rowndiau rhagarweiniol a rowndiau cynderfynol yn arwain at y rownd derfynol fel rhan o gyngerdd Gala pen-blwydd yr Eisteddfod yn 80 oed ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf. Bydd yr enillydd yn derbyn £3,000 a thlws ”Llais Rhyngwladol y Dyfodol’
Dywedodd Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen:
“Mae ein cystadleuwyr wedi bod wrth wraidd yr Eisteddfod trwy gydol ei hanes 80 mlynedd, felly mae’n teimlo’n arbennig o bwysig bod ein blwyddyn pen-blwydd yn dathlu’r amrywiaeth anhygoel o bobl sy’n dod i Langollen i berfformio, rhannu eu diwylliant a gwneud cyfeillgarwch.
“Rydym wedi parhau i ddatblygu’r y sylabws 2027, gan greu cyfleoedd newydd tra’n diogelu’r cystadlaethau sy’n rhan mor bwysig o hunaniaeth Llangollen.” “Un o’r newidiadau rwy’n arbennig o falch ohono yw’r ffordd rydym yn trefnu rhaglen y penwythnos olaf. Yn dilyn ehangiad sylweddol ar ein cystadlaethau dawns ar gyfer 2026, byddwn nawr yn trefnu’r dosbarthiadau hynny dros ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae hyn yn golygu, pa ddiwrnod bynnag y bydd pobl yn dewis ymweld, y byddant yn profi cymysgedd gwirioneddol o ganu, cerddoriaeth a dawns, yn hytrach na bod diwrnodau unigol yn cael eu dominyddu gan un math penodol o berfformiad.
“Mae ein pen-blwydd yn 80 oed yn gyfle i ddathlu popeth sydd wedi gwneud Llangollen yn arbennig ers 1947, ond hefyd i edrych tua’r dyfodol. Gobeithiaf y bydd perfformwyr o Gymru, y DU ac o bob cwr o’r byd yn dod i fod yn rhan o’r bennod nesaf honno gyda ni.”
Mae’r sylabws hefyd yn cynnwys cyfleoedd i berfformwyr nad ydynt yn dymuno cystadlu, gyda chyfle i gorau, grwpiau dawns, ensembles ac unigolion gymryd rhan heb gystadlu.
Mae’r broses ymgeisio bellach ar agor ar gyfer yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2027. Mae ceisiadau grŵp ar gyfer cystadlaethau corawl, dawns ac offerynnol yn cau ddydd Gwener 1 Ionawr 2027, tra bod ceisiadau ar gyfer cystadlaethau unigol lleisiol ac offerynnol yn cau ddydd Sadwrn 13 Mawrth 2027.
Mae’r sylabws cystadlu llawn a gwybodaeth am ymgeisio ar gael ar wefan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.









