Wythnos Gwirfoddolwyr: Eluned

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn cynnwys stori bob diwrnod gan wirfoddolwr, lle maen nhw’n rhannu eu profiadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Fy Eisteddfod i

Eleni fyddai’r 24ain flwyddyn i mi fod yn Eisteddfod Llangollen. Dydw i heb golli yr un flwyddyn, gan ddod yma fel ymwelydd, perfformiwr a gwirfoddolwr.

Yn ystod blynyddoedd cyntaf fy mywyd mae’n rhaid i mi fod yn onest a dweud na allaf gofio mynychu’r Eisteddfod.

Rwy’n gallu cofio’r blynyddoedd pan oeddwn yn yr ysgol gynradd yn dda iawn, oherwydd yn y blynyddoedd hynny roedd yr Eisteddfod yn golygu 2 ddiwrnod i ffwrdd o’r ysgol i mi. Ond er bod yr ysgol gynradd mor agos yn y Garth, wnaethon ni ddim ymweld â maes yr ŵyl nes i mi fod yn fy mlwyddyn olaf. Byddwn yn treulio amser gyda Mam yn yr Eisteddfod yn gwylio’r cystadlaethau, yn crwydro’r stondinau, yn gwylio’r cyngherddau gyda’r nos neu’n bod yn stiward bach yn helpu Mam.

Pan oeddwn i’n wyth oed cefais fy anrhydeddu â’r rôl o gyflwyno blodau i Rhys Meirion. Rwy’n dal i gofio’r digwyddiad – rhosyn gwyn iddo fo, rhosyn coch i’w bianydd ac yna cyrtsi i’r gynulleidfa. Y cyrtsi dw i’n ei gofio orau oherwydd ar ôl i mi ei wneud mi wnaeth y gynulleidfa gyd fynd “awww” roedd yr holl beth yn dipyn o embaras i mi ac mae’n dal wedi ei serio ar fy nghof.

Pan oeddwn i’n 9 oed (Blwyddyn 4), roedd fy ysgol yn rhan o’r Neges Heddwch, ac roeddwn i’n aelod o’r côr. Rwy’n cofio dysgu Make Me a Channel of Your Peace yn Gymraeg a theimlo ar ben fy nigon ar ôl i ni berfformio’r gân ar y llwyfan a llwyddo i gofio’r geiriau i gyd. Yn ogystal, roedd ein hysgol hefyd yn perfformio rhan drwm, a oedd yn cynnwys nifer o offerynnau taro rhyngwladol.

Roedd mynd i Ddinas Brân yn golygu fy mod wedi fy mhenodi i rôl Tywysydd. Roedd tywys yn hwyl fawr – yn enwedig pan oeddwn ar ddyletswydd ar y drysau gyda fy ffrindiau neu rai o’r stiwardiaid mwyaf “diddorol”.

Yn 2009, treuliais ddyddiau wythnos yr Eisteddfod yn helpu ym Mhabell y Ffrindiau, yn gwneud te, coffi ac yn gweini bisgedi i unrhyw un oedd yn ymweld. Hon oedd y flwyddyn y gwnes i berffeithio gwneud panad dda.

Ers 2010, rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gefn llwyfan yn y Pafiliwn gyda chriw sain Wigwam Acoustics. Mae’r rôl yn golygu mwy na cherdded yn ôl a blaen ar y llwyfan gyda meic neu ddau, oherwydd mae llawer mwy yn digwydd y tu ôl i’r llenni nad ydych chi’n ei weld. Mae’r wythnos yn dechrau y penwythnos cyn i’r Eisteddfod gychwyn. Rwy’n rhan o’r criw sy’n gosod yr holl offer sain yn y Pafiliwn a’r system sy’n darlledu’r prif ddigwyddiadau o amgylch y Maes. Yna wrth i’r wythnos ddechrau rydw i ar y safle am ddiwrnodau hir – o’r cystadlaethau am 9 o’r gloch y bore hyd at yr adeg y bydd y gerddorfa yn gadael ar ôl i’r cyngherddau ddod i ben gyda’r nos. Mae gweithio gefn llwyfan wedi golygu fy mod i’n gallu dweud fy mod i wedi gweithio gyda pherfformwyr adnabyddus o Mcfly a Status Quo i Karl Jenkins a Jools Holland.

Mae gweithio mor agos gyda’r criw sain a chefn llwyfan am y 9 mlynedd diwethaf wedi creu cyfeillgarwch gwych yr wyf wedi’i gario ymlaen yn fy mywyd proffesiynol gan fy mod bellach yn gweithio fel peiriannydd sain ym Manceinion.

Mae’r sgiliau a ddysgais o fy mlynyddoedd lawer yn yr Eisteddfod wedi agor cyfleoedd gwaith yn teithio o amgylch y DU gyda cherddorfeydd, gwyliau cerdd, cynyrchiadau teledu a Theatr y Royal Exchange, Manceinion. Er fy mod i’n hynod brysur yn arbennig yn ystod misoedd yr haf, Eisteddfod Llangollen yw’r wythnos rwy’n edrych ymlaen ati fwyaf yn fy nghalendr.

Eluned

Eluned Ashwood, Gwirfoddolwr
Criw Sain a Chefn Llwyfan

 

Oeddech chi’n gwybod fod angen 800 o wirfoddolwyr i lwyfannu Eisteddfod lwyddiannus?

Yn gytûn yn eu hymroddiad i’r ŵyl a’r pethau da y mae’n eu cynrychioli, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser a’u doniau yn ystod y flwyddyn ac mae llawer yn teithio o bell er mwyn rhoi help llaw yn ystod wythnos yr Eisteddfod. A hoffech chi ymuno â nhw?