Kerry’n dod â hud y West End a Broadway i Langollen

Cafodd y gynulleidfa yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fynd ar daith hudolus o gwmpas y West End a Broadway yn y cyngerdd disglair nos Fercher yn yr ŵyl.

Llangollen International Musical Eisteddfod 2016. World class opera singer Kate Aldrich led an all-star cast in a concert adaptation of Georges Bizet’s opera, Carmen last night (Tuesday).

Roedd y seren o theatr sioeau cerdd, Kerry Ellis, yn perfformio gyda’r band bechgyn poblogaidd Collabro i gyflwyno rhai o’r caneuon llwyddiannus mwyaf cofiadwy o amrediad o sioeau llewyrchus iawn, gyda sain mawr Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru’n   gefndir iddynt.

Daeth Kerry’n seren yn gyflym iawn yn rôl Meat yn We Will Rock You gan Queen ac aeth ymlaen i ennill clod dro ar ôl tro am ei pherfformiad gwobrwyog fel Elphaba yn Wicked.

Roedd Kerry’n defnyddio’r holl brofiad yma wrth gyflwyno eto y gân I’m Not That Girl o’r sioe honno, ynghyd â rhai eraill fel All That Jazz o Chicago a Memory o Cats._dsc7110

Mae Collabro’n fand o bedwar aelod, ddaeth yn fuddugol yn Britain’s Got Talent flw
yddyn neu ddwy yn ôl, ac wedyn symud ymlaen i recordio record hir gyntaf aeth yn rhif un yn y siartiau. Daeth y band yma ar y llwyfan i gyflwyno llu o ganeuon i blesio’r dyrfa, fel Circle of Life o Lion King, y gân dyner Over the Rainbow o Wizard of Oz a Bui Doi o Miss Saigon.

Ac yn helpu i gadw’r sioe gyfan gyda’i gilydd yn ddiffwdan roedd CBC Voices. Maen nhw’n grŵp hynod dalentog o actorion, cantorion a dawnswyr gyda’u canolfan yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, wedi’i ffurfio gan Gyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths.flower-team-3

Roedd y rhain yn disgleirio mewn perfformiadau cân a dawns yn cynnwys The Ballad of Sweeney Todd a chymysgedd o ganeuon cyffrous o West Side.

Roedd digon o gyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan hefyd, yn canu a churo dwylo i gyd fynd gyda’r caneuon.

Ar ddiwedd y noson, cododd pawb ar eu traed i gymeradwyo’r holl berfformwyr am eu hymdrechion trawiadol trwy gydol y sioe a’r diweddglo bywiog o gymysgedd o ganeuon o Les Miserables.