National Trust Erddig

Dewch i ddarganfod mwy am gartref, gardd ac ystad hyfryd, llawn straeon am deulu a’i weision a morynion. Mae Erddig, sydd ddeng milltir yn unig o Langollen, yn gartref i ardd wedi’i hadfer yn unol â’i chynllun o’r 18fed ganrif, coed ffrwythau taclus, borderi blodau toreithiog, rhodfeydd o bisgwydd plethedig, gwrychoedd ffurfiol a chasgliad eiddew o bwysigrwydd cenedlaethol.

Dewch i ddweud helô wrth ein tîm cyfeillgar i gael gwybod am aelodaeth a chael blas ar ddiwrnod allan bendigedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

 

https://www.nationaltrust.org.uk/erddig