Meddwl am gynnig llety i gystadleuydd?
Gwnewch hynny ar bob cyfri! Aros gyda theuluoedd yw’r ffordd orau i gystadleuwyr gael profiad uniongyrchol o’r croeso cynnes sydd wedi dod yn nodwedd o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Mae’r elfen o gymryd rhan yn yr ŵyl gan y gymuned y mae aros mewn cartrefi yn ei gynnig yn hynod o bwysig i ni. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cefnogi perfformiadau lleol gan grwpiau i’r rhai sy’n cynnig llety a’r gymuned leol ehangach.
Bydd yr Eisteddfod yn talu £15 y pen y noson i’r sawl sy’n cynnig llety. Bydd hyn yn helpu tuag at gost llety gwely a brecwast. Gall rhai sy’n cynnig llety hefyd gynnig swper ysgafn o gaws, bisgedi, danteithion ac ati. Ond nid yw hyn yn orfodol. Mae tocyn diwrnod teulu am ddim hefyd ar gael i bobl sy’n cynnig llety, fel eu bod yn gallu dod i faes yr Eisteddfod i weld eu gwesteion yn perfformio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ein Swyddog Cyswllt Cystadleuwyr ar 01978 862 010 neu anfonwch ebost at accommodation@llangollen.net