Er mwyn hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at ailgylchu, mae Eisteddfod Llangollen wedi gwella nifer o gamau gweithredu allweddol er mwyn sicrhau bod gŵyl 2019 yn chwarae ei rhan wrth ofalu am ein planed.
Er bod dŵr yfed wedi bod ar gael yn rhwydd ar y safle erioed, eleni rydym unwaith eto wedi nodi’r tapiau ar ein gwefan ar-lein, ac yn ein rhaglen. Rydym hefyd wedi ychwanegu arwyddion ychwanegol o gwmpas y maes er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r pwyntiau ail-lenwi hyn yn hawdd. Gyda hyn mewn golwg, hoffem annog ymwelwyr i ddod â’u poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio gyda nhw i’r Eisteddfod a’u llenwi o’n tapiau dŵr yfed drwy gydol y dydd.
Mae gennym nifer fawr o bwyntiau ailgylchu lliwgar wedi’u gwasgaru ar hyd y safle sydd wedi’u marcio’n glir. Mae’r biniau hyn yn cael eu gwacáu’n rheolaidd gan ein Wombles ailgylchu o Gwm Harry Zero Waste yn ystod yr wythnos i sicrhau bod y swm mwyaf posib o wastraff yn cael ei ailgylchu.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid, contractwyr a chyflenwyr i sicrhau, lle bo hynny’n bosibl, bod defnyddio plastigau untro yn cael ei leihau a bod opsiynau compostio a bioddiraddadwy yn cael eu defnyddio yn lle hynny.