Llangollen yn paratoi ar gyfer Haf 2026 gyda Chyfarfod Cyhoeddus

Mae trigolion a busnesau yn Llangollen yn cael eu gwahodd i gyfarfod cyhoeddus ddydd Mawrth, 9 Mehefin cyn tymor yr haf 2026 ym Mhafiliwn Llangollen ac yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwaldol Llangollen. Yr haf hwn, disgwylir i ddegau o filoedd o ymwelwyr ddod i Langollen, gan roi hwb sylweddol i’r economi leol.

2026 yw’r drydedd flwyddyn i’r Eisteddfod  Gerddorol  Ryngwladol Llangollen a Cuffe a Taylor hyrwyddo cyngherddau ar y cyd yn y Pafiliwn, gan ddod ag artistiaid a chynulleidfaoedd rhyngwladol mawr i’r dref.

Bydd cynrychiolwyr o’r tîm gwirfoddolwyr y tu ôl i’r ŵyl a’r cyd-hyrwyddwyr Cuffe a Taylor yn mynychu’r cyfarfod i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ddigwyddiadau sydd ar ddod, trefniadau’r safle, cynlluniau rheoli traffig, mesurau lliniaru sŵn, a mynediad i safle’r Pafiliwn.

Cynhelir y cyfarfod ddydd Mawrth, 9 Mehefin 2026 am 6.30pm ym Mhafiliwn Llangollen.

Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, John Gambles:

“Ymhen ychydig wythnosau yn unig, bydd drysau ein Pafiliwn eiconig yn croesawu degau o filoedd o bobl ar gyfer tymor haf cyffrous arall o adloniant byw, gyda TK Maxx yn Cyflwyno’n Fyw ym Mhafiliwn Llangollen 2026 ac yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Bydd y cyfarfod hwn yn gyfle i drigolion a busnesau Llangollen gael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i ni baratoi ar gyfer rhaglen haf wych. Mae’n bwysig i ni gadw trigolion yn wybodus a sicrhau bod yr effaith ar ein tref yn gadarnhaol.”

Mae nifer o gamau’n cael eu cymryd i gynnal amgylchedd diogel i’r cyhoedd yn ystod diwrnodau digwyddiadau, gan gynnwys mesurau rheoli traffig a system unffordd mewn rhai ardaloedd. Bydd llinell ffôn bwrpasol hefyd yn cael ei lansio i ganiatáu i drigolion gysylltu â thîm yr Eisteddfod gydag unrhyw broblemau yn ystod yr ŵyl.

Mae tocynnau a rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn y Pafiliwn ac yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar gael o llangollen.net