Dyma oedd ein hymweliad cyntaf â’r ŵyl gerddoriaeth yma ond yn sicr nid dyma fydd y tro olaf. Mi wnaethon ni brynu tocynnau ar gyfer y cyngerdd gyda’r nos ar y 7fed o Orffennaf 2016. Mi wnaethon ni dreulio’r prynhawn yn yr ŵyl ac roedd yn brofiad gwych. Roedd yno bob math o fwyd a diod, a chymaint yn digwydd, yn gerddoriaeth, dawns, stondinau crefft a llawer mwy. Roedd pawb mor gyfeillgar ac roedd yr holl beth wedi ei drefnu mor dda, roedd yr awyrgylch yn arbennig. Mae fy ngŵr a minnau yn dal i fethu credu i ni fod yn ddigon ffodus i fod yn y cyngerdd gyda’r nos, sef ein prif reswm dros fynd i’r ŵyl. Gwelsom Bryn Terfel a Joseph Calleja, AM BROFIAD ANHYGOEL!! Roedden nhw’n hollol wych ac rydym yn dal i fethu credu ein bod mor ffodus i weld a chlywed y ddau, dau o’r cantorion gorau yn y byd. Pe baem am weld y naill neu’r llall mewn unrhyw leoliad arall, byddai wedi costio chwe gwaith yn fwy. Roedd clywed y gynulleidfa yn canu anthem genedlaethol Cymru hefyd yn brofiad teimladwy iawn, ac yn gyrru ias i lawr fy nghefn!! Rydym yn dal i binsio ein hunain i feddwl ein bod wedi bod yno. Hoffem ddiolch i drefnwyr yr ŵyl ac i Bryn a Joseph am brofiad na fyddwn byth yn ei anghofio.
Profiad iasol