Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn falch o gyhoeddi bod y cyfansoddwr Cymreig o fri rhyngwladol, Syr Karl Jenkins, wedi cael ei benodi’n Llywydd yr Eisteddfod ar gyfer 2026.
Yn cael ei gydnabod fel un o gyfansoddwyr byw mwyaf poblogaidd y byd, mae cerddoriaeth Syr Karl wedi cyffwrdd miliynau o bobl ledled y byd drwy gyfansoddiad megis The Armed Man: A Mass for Peace, Adiemus a Requiem. Daw ei benodiad yn Llywydd wrth i’r Eisteddfod baratoi i groesawu cystadleuwyr, perfformwyr ac ymwelwyr o bob cwr o’r byd ar gyfer dathliad arall o gerddoriaeth, diwylliant a chyfeillgarwch rhyngwladol.
Daw’r cyhoeddiad mewn blwyddyn arbennig i Syr Karl, gyda’i gyfansoddiad The Armed Man: A Mass for Peace wedi cael ei bleidleisio’n waith mwyaf poblogaidd y Classic FM Hall of Fame 2026. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu’r cysylltiad dwfn y mae cynulleidfaoedd yn parhau i’w deimlo â’i gerddoriaeth a’i negeseuon parhaus o heddwch, gobaith a dynoliaeth – gwerthoedd sydd wrth wraidd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Syr Karl Jenkins:
“Rwy’n falch iawn o ddychwelyd i’r Eisteddfod Llangollen eleni, ac yn arbennig o anrhydeddus i wneud hynny yn rôl y Llywydd. Mae Llangollen bob amser yn lle arbennig iawn, gyda’i hymdeimlad unigryw o gymuned ac ysbryd rhyngwladol.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at arwain fy nghyfansoddiad corawl diweddaraf, One World, yn enwedig yn dilyn gohirio perfformiad y llynedd. Mae’n gyfansoddiad sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu hanfod yr Eisteddfod , gan ddod â cherddorion rhagorol o bob cwr o’r byd ynghyd i ffurfio un llais pwerus ar y cyd.”
Bydd blwyddyn lywyddol Syr Karl yn dechrau mewn steil ysblennydd gyda chyngerdd agoriadol yr Eisteddfod, Uniting Nations: One World, ddydd Mawrth 7 Gorffennaf.
Flwyddyn ar ôl ei gohirio’n annisgwyl, bydd un o’r cyngherddau mwyaf disgwyliedig yn hanes yr ŵyl yn cymryd ei lle canolog ar lwyfan Llangollen o’r diwedd. Roedd gohirio perfformiad 2025 yn siom enfawr i bawb oedd ynghlwm â’r digwyddiad, yn enwedig y gwirfoddolwyr, y perfformwyr a’r aelodau o’r gynulleidfa a oedd wedi teithio o bob rhan o’r DU a ledled y byd i fod yn rhan o noson a oedd yn addo bod yn achlysur arbennig iawn.
Yn benderfynol o sicrhau bod y cyngerdd yn cael y llwyfan yr oedd yn ei haeddu, bu’r Eisteddfod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i’w ddychwelyd. Diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Uniting Nations: One World yn dychwelyd yn 2026, gan sicrhau y bydd cynulleidfaoedd yn cael profi’r cyngerdd y mae cymaint wedi bod yn aros blwyddyn gyfan i’w weld. 
Bydd y noson yn cynnwys perfformiad llawn o One World gan Syr Karl Jenkins, dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun ac yn cael ei berfformio gan gorws torfol rhyngwladol sy’n cynnwys WorldChoir a NEW Voices, ynghyd â Cherddorfa Ryngwladol Llangollen. Yn fawreddog, yn ysbrydoledig ac yn emosiynol iawn, mae’r gwaith yn cyfuno arddull gerddorol unigryw Jenkins â themâu dynoliaeth, tosturi a gofal am yr amgylchedd – neges sy’n fwy perthnasol nag erioed.
Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiad llawn o Peace Child: The Musical, gwaith ysbrydoledig sy’n rhoi pobl ifanc wrth galon y stori, gan ein hatgoffa o’u rôl hanfodol fel adeiladwyr heddwch a dinasyddion byd-eang.
Yn agor y noson bydd première byd Greeting the Dawn, gwaith dwyieithog newydd gan y cyfansoddwr ifanc Cymreig Sam Buttler. Wedi’i gomisiynu’n arbennig ar gyfer Eisteddfod 2026 drwy fenter Harmony Without Borders, mae’r gwaith yn parhau traddodiad balch Llangollen o feithrin talent newydd a rhoi llwyfan rhyngwladol i leisiau artistig newydd.
Dywedodd John Gambles, Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen:
“Rydym wrth ein bodd bod Syr Karl Jenkins wedi cytuno i wasanaethu fel Llywydd yr Eisteddfod yn 2026. Ychydig iawn o gerddorion sydd wedi gwneud mwy i hyrwyddo gwerthoedd heddwch, cyfeillgarwch a dealltwriaeth ryngwladol sydd wrth galon ein Eisteddfod .
“Mae Syr Karl yn un o lysgenhadon diwylliannol mwyaf Cymru ac mae ei gerddoriaeth wedi ysbrydoli cynulleidfaoedd ar bob cyfandir. Mae’r ffaith fod The Armed Man newydd gael ei bleidleisio’n hoff waith clasurol y genedl yn dyst nid yn unig i’w ddawn ryfeddol, ond hefyd i apêl gyffredinol y negeseuon o heddwch, gobaith a dynoliaeth sy’n rhedeg drwy gymaint o’i gerddoriaeth.
“Roedd gohirio One World y llynedd yn dorcalonnus i bawb oedd ynghlwm â’r digwyddiad. Roeddem yn gwybod pa mor bwysig oedd y cyngerdd i gynulleidfaoedd, perfformwyr a gwirfoddolwyr fel ei gilydd, ac roeddem yn benderfynol o ddod o hyd i ffordd i’w ddychwelyd. Diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, gallwn bellach roi’r gynulleidfa y mae’r cyngerdd arbennig hwn yn ei haeddu.
“Gyda Syr Karl yn Llywydd arnom, dychweliad One World, première byd cyfansoddiad Cymreig newydd pwysig a neges bwerus Peace Child, mae hyn yn addo bod yn un o nosweithiau agoriadol mwyaf cofiadwy ac arwyddocaol yn hanes yr Eisteddfod.”
Wrth ddathlu ei 79ain flwyddyn, bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dychwelyd ddydd Mawrth 7 Gorffennaf gyda rhaglen gyfoethog o gerddoriaeth, diwylliant a chystadlu. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Michael Ball, Emeli Sandé gyda’r Absolute Orchestra, Uniting Nations: One World gyda Syr Karl Jenkins, a chystadleuaeth fawreddog Côr y Byd. Ochr yn ochr â’r cyngherddau gyda’r nos, bydd miloedd o gystadleuwyr o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan mewn rhaglen brysur yn ystod y dydd, gyda Gorymdaith y Cenhedloedd liwgar yn dychwelyd ddydd Gwener 10 Gorffennaf, ynghyd â llawer mwy.
Mae rhagor o wybodaeth am Uniting Nations: One World, gan gynnwys manylion tocynnau, ar gael ar wefan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae tocynnau ar werth nawr, gyda phrisiau’n dechrau o £33.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i: www.llangollen.net








