Mae Sesiynau Pont-Sain yn gyfres o berfformiadau awyr agored, yn gynnar gyda’r nos, wedi’u cyd-guradu ag artistiaid a sefydliadau blaenllaw o Gymru a thu hwnt. Gan bontio cystadlaethau’r Eisteddfod yn ystod y dydd a chyngherddau gyda’r nos, mae pob sesiwn yn cynnig cipolwg unigryw ar greu cerddoriaeth gyfoes, o werin a jass i gydweithrediadau byd-eang a genres-heriol.
Dydd Mawrth 7 – Sesiynau Pont-Sain: Angharad Jenkins yn cyflwyno… Noson wedi’i chyd-guradu o gerddoriaeth werin gyfoes Cymru.
Dydd Mercher 8 – Sesiynau Pont-Sain: N’famady Kouyaté yn cyflwyno… Set fywiog, sy’n croesi genres yn cynnwys Korason, Band Pres Bollywood a gwesteion arbennig.
Dydd lau 9 – Sesiynau Pont-Sain: Rushil Ranjan yn cyflwyno… Llinell berfformwyr wedi’i chyd-guradu’n arbennig dan arweiniad un o grewyr traws-genre mwyaf cyffrous y DU.
Dydd Gwenar 10 – Sesiynau Pont-Sain: Bbc Radio Cymru – Rhys Mwyn yn cyflwyno… Arddangosfa fywiog yn dathlu’r gorau o gerddoriaeth gyfoes yn y Gymraeg, yn cynnwys Malan, Blodau Papur a Carwyn Ellis a Rio 18.
Dydd Sadwrn 11 – Sesiynau Pont-Sain: Sain Records & Klust yn cyflwyno… Ciplun cymhellol o artistiad newydd a sefydledig Cymru, yn cynnwys Elin a Carys, Nancy Williams a Martha Elen
Dydd Sul 12 – Sesiynau Pont-Sain: Ty Cerdd yn cyflwyno… Yn cyfuno amrywiaeth o genres gan rai o gerddorion blaenllaw Cymru yn cynnwys Quartet Draig ochr yn ochr â thriawd jazz dan arweiniad trwmped gyda Tomos Williams, Aidan Thorne a Matt Holmes.
BOOK TICKETS








