Archifau Tag Côr o Galifornia yn sicrhau llwyddiant mewn gŵyl gerddorol ryngwladol enwog

Côr o Galifornia yn sicrhau llwyddiant mewn gŵyl gerddorol ryngwladol enwog

Llwyddodd The Bob Cole Conservatory Chamber Choir i ennill Tlws Pavarotti yng nghystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Ymhlith y rhai a ddaeth o fewn trwch blewyn i’r brig roedd Côr Glanaethwy, a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Britain’s Got Talent.

Llwyddodd yr enillwyr i guro corau o Estonia, y Weriniaeth Tsiec, Ynysoedd y Philipinau, Lloegr, y Ffindir a chorau eraill o Galifornia, The Sunday Night Singers a’r Quire of Voyces. (rhagor…)