Cantores Gymraeg, a brofodd fuddugoliaeth yn Llangollen, yn creu argraff yn Eisteddfod yr Arfordir Aur
Archifau Tag Eisteddfod yr Arfordir Aur
Cantores Gymraeg yn syfrdanu yn Awstralia
Enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2018 Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Mared Williams, yn teithio i Arfordir Aur Awstralia ar gyfer perfformiad mawreddog.
Fel rhan o’i gwobr, cafodd Mared Williams, 21, o Lannefydd gyfle i ymuno â channoedd o artistiaid rhagorol eraill yn sioe Musicale, Eisteddfod yr Arfordir Aur. Mae’r sioe yn ddathliad mawreddog o sioeau cerdd ac yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl ddawns a cherddoriaeth saith wythnos o hyd yn Awstralia.
Ar ôl hoelio sylw’r gynulleidfa a’r beirniaid gyda’i pherfformiad ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol fis Gorffennaf, fe deithiodd Mared dros 10,000 o filltiroedd i Awstralia ar gyfer y perfformiad unwaith mewn oes.