Cafodd y gynulleidfa yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fynd ar daith hudolus o gwmpas y West End a Broadway yn y cyngerdd disglair nos Fercher yn yr ŵyl.Roedd y seren o theatr sioeau cerdd, Kerry Ellis, yn perfformio gyda’r band bechgyn poblogaidd
Collabro i gyflwyno rhai o’r caneuon llwyddiannus mwyaf cofiadwy o amrediad o sioeau llewyrchus i
awn, gyda sain mawr Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru’n gefndir iddynt.
Daeth Kerry’n seren yn gyflym iawn yn rôl Meat yn We Will Rock You gan Queen ac aeth ymlaen i ennill clod dro ar ôl tro am ei pherfformiad gwobrwyog fel Elphaba yn Wicked.
Roedd Kerry’n defnyddio’r holl brofiad yma wrth gyflwyno eto y gân I’m Not That Girl o’r sioe honno, ynghyd â rhai eraill fel All That Jazz o Chicago a Memory o Cats.
Mae Collabro’n fand o bedwar aelod, ddaeth yn fuddugol yn Britain’s Got Talent flwyddyn neu ddwy yn ôl, ac wedyn symud ymlaen i recordio record hir gyntaf aeth yn rhif un yn y siartiau. Daeth y band yma ar y llwyfan i gyflwyno llu o ganeuon i blesio’r dyrfa, fel Circle of Life o Lion King, y gân dyner Over the Rainbow o Wizard of Oz a Bui Doi o Miss Saigon.
Ac yn helpu i gadw’r sioe gyfan gyda’i gilydd yn ddiffwdan roedd CBC Voices. Maen nhw’n grŵp hynod dalentog o actorion, cantorion a dawnswyr gyda’u canolfan yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, wedi’i ffurfio gan Gyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths.
Roedd y rhain yn disgleirio mewn perfformiadau cân a dawns yn cynnwys The Ballad of Sweeney Todd a chymysgedd o ganeuon cyffrous o West Side.
Roedd digon o gyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan hefyd, yn canu a churo dwylo i gyd fynd gyda’r caneuon.
Ar ddiwedd y noson, cododd pawb ar eu traed i gymeradwyo’r holl berfformwyr am eu hymdrechion trawiadol trwy gydol y sioe a’r diweddglo bywiog o gymysgedd o ganeuon o Les Miserables.








