
Ddydd Mercher y 9fed o Orffennaf bydd chwe grŵp cymunedol deinamig o Gymru yn ymweld ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i arddangos eu bywiogrwydd diwyllianol fel rhan o gynllun unigryw yn dwyn y teitl Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol . Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd y grwpiau’n tanlinellu natur amlddiwylliannol ac amlieithog eu treftadaeth gan ddathlu cymunedau amrywiol y Gymru fodern. Mae’r prosiect yn adlewyrchu traddodiad hanesyddol yr Eisteddfod o uno pobloedd drwy ddefnyddio’r celfyddydau a diwylliant i ddod â gwahanol gymunedau ynghyd mewn ysbryd o heddwch a chyfeillgarwch.
O dan y teitl Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol Cymru, mae’r grwpiau’n cynrychioli cymunedau o gefndiroedd diwylliannol ac ieithyddol amrywiol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru a byddant yn arddangos perfformiadau sy’n dod â cherddoriaeth, dawns a barddoniaeth ynghyd i ddweud wrth Gymru a’r byd am eu cymunedau.
Drwy gydol y broses, bydd y grwpiau’n cael eu cefnogi gan dri phartner allanol – Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Cherdd Gymunedol Cymru â fydd yn rhoi cymorth a chyngor gyda’u sgiliau adrodd straeon. Bydd y Cynhyrchwyr Cymunedol Lyndy Cooke a Richie Turner a chyfarwyddwyr y prosiect Garffild a Sian Eirian Lewis yn arwain a chefnogi’r grwpiau drwy’r broses er mwyn sicrhau perthnasedd y perfformiadau ar lwyfan ryngwladol.
Bydd y chwe grŵp yn derbyn rhywfaint o gymorth ariannol i’w helpu i arddangos eu cynyrchiadau yn Llangollen ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Garffild Lewis, Cyfarwyddwr Prosiect Rhythmau a Gwreiddiau: “Mae’r prosiect hwn yn dathlu’r cryfder â geir mewn amrywiaeth, yn uno cyfoeth ddiwyllianol cymunedau Cymru. Bydd yn fraint cael llwyfanu’r perfformiadau yma yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, lle y bydd cerddoriaeth, dawns a llen yn uno pawb mewn ysbryd o heddwch a chreadigrwydd gan barhau â thraddodiad yr Eisteddfod o feithrin cysylltiadau rhyngwladol.”
Fe bwysleisiodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru arwyddocâd y prosiect: “Rydym yn falch o gefnogi Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2025. Mae’r gwaith yn ffrwyth cais llwyddiannus am arian o’n cronfa ‘Cysylltu a Ffynnu’ sef rhaglen ariannu Loteri Genedlaethol sy’n annog cydweithio rhwng sefydliadau, cymunedau, unigolion a gweithwyr creadigol.
“Mae Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Cherdd Gymunedol Cymru yn dod ynghyd ar gyfer y cynllun ysbrydoledig hwn i ddathlu gwead cyfoethog o leisiau sy’n adlewyrchu creadigrwydd, cynhwysiant ac amrywiaeth ddiwylliannol a bydd yn asio’n berffaith â gwerthoedd yr Eisteddfod Ryngwladol. Edrychwn ymlaen yn arw i weld y gwaith yng nghanol bwrlwm a lliw’r Eisteddfod.”
Fe ychwanegodd John Gambles, Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen: “Mae hwn yn brosiect gwych, ac yn agos iawn i’n calonnau. Rydym wrth ein boddau y bydd y chwe grŵp yn cymryd rhan ganolog yng Ngorymdaith y Cenhedloedd ar ôl iddyn nhw berfformio ar y Maes eleni. Rydym yn croesawu dros 4000 o gystadleuwyr o 35 o wahanol wledydd i Langollen, gan barhau â thraddodiad yr Eisteddfod ers 1947 o uno’r byd drwy gerddoriaeth a diwylliant.
Grwpiau:
- Mae Balkan Roots Collective yn grŵp cymunedol wedi ei leoli yng Nghaerdydd a Chasnewydd, sy’n uno unigolion o’r hen Iwgoslafia (bellach gwladwriaethau Bosnia a Herzegovina, Croatia, Kosovo, Montenegro, Gogledd Macedonia, Serbia a Slofenia) i ddathlu a rhannu treftadaeth y gwledydd Balcan drwy gerddoriaeth, dawns a chanu.
- Bydd EYST Cymru (Wrecsam) yn cyflwyno perfformiad dawns a cherddoriaeth ar themáu heddwch y byd gan ddefnyddio eu baneri cenedlaethol, a thrwy hynny gynrychioli’r amrywiaeth ethnig ac ieithyddol byd-eang sy’n bodoli yng Nghymru. Bydd y bobl ifanc yn perfformio dawnsiau cenedlaethol o’u gwledydd genedigol fel Gwlad Pwyl, Portiwgal, y Weriniaeth Dominicanaidd, Bwlgaria a De Affrica.

- Bydd y perfformiad y Caminhos yn cynnwys elfennau o lafarganu, dawns symudol, y gair llafar, a chân. Bydd y naratif a’r sgript yn gwau drwy’r elfennau creadigol hyn i gyfleu y nod byd-eang o gyflawni heddwch.
- Bydd prosiect TGP/Teulu Dawns Cymru yn hwyluso datblygiad darn perfformio gyda grŵp ieuenctid lleol sy’n geiswyr lloches yn eu harddegau. O dan y teitl Afrobeats, bydd y darn yn ymgorffori symudiadau dawns a straeon o’u gwledydd traddodiadol gwahanol gan ddefnyddio gwahanol ieithoedd i fwrw golwg ar themáu hunaniaeth, treftadaeth a chysylltedd.

- Bydd Samarpan yn cyflwyno “Nritya – A Dance for Unity & Peace” sy’n berfformiad Bharatanatyam â ysbrydolwyd gan egwyddorion cyffredinol heddwch y byd, amrywiaeth byd-eang, a dynoliaeth. Wedi’i wreiddio yn nhraddodiadau dwfn dawns glasurol India, nod y darn yw dathlu rhyng-gysylltiad diwylliannol tra’n talu teyrnged i’r amrywiaeth ethnig ac ieithyddol sy’n bresennol yng Nghymru.

- Mae Band Oasis Gambas a Chôr Un Byd yn dod at ei gilydd i ddathlu ieithoedd a diwylliannau amrywiol pobl sy’n ceisio noddfa. Trwy gyfuniad pwerus o ganeuon dwyieithog gwreiddiol, y gair llafar, a dawns bydd y grŵp yn rhannu negeseuon llawenydd, heddwch, gwytnwch, ac undod.




