Archifau Categori: Arbennig

Wythnos y Gwirfoddolwyr: Karen

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn cynnwys stori bob diwrnod gan wirfoddolwr, lle maen nhw’n rhannu eu profiadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Atgofion hoff o Pumla a Numle

Atgof sydd wedi aros gyda ni fel teulu ers nifer o flynyddoedd yw pan ddaeth côr o Port Elizabeth yn Ne Affrica i Langollen.

Ychydig ar ôl diwedd cyfnod Apartheid oedd hi pan ddaeth Côr Cantorion Mathews i’r Eisteddfod gan aros gyda theuluoedd yn ardal Johnstown. Enw’r ddwy wraig a oedd yn aros gyda ni oedd Pumla a Numle. Roedd gan Pumla ferch yr un oed â fy merch Kate sef tua 7 oed. Roedd yn ddiddorol tu hwnt clywed am eu bywydau yn eu gwlad eu hunain ond digwyddodd y sioc fwyaf pan oedd Numle a mi yn rhannu hyfrydwch blasus bag o sglodion o’r chippy’ efo’n gilydd. Yn sydyn mi ddechreuodd hi grio. Roeddwn i’n meddwl bod rhywbeth mawr o’i le, ond dywedodd Numle mai hwn oedd y tro cyntaf iddi rannu bwyd gyda pherson gwyn a’i bod hi’n hapus iawn. Fy nhro i oedd hi wedyn i ddechrau crio.

Cafwyd ychydig mwy o eiliadau teimladwy yn ystod yr wythnos ond roedd yn amser gwych. Yn y diwedd, aeth y merched adref gyda phob math o bethau da gan gynnwys dau neu dri tedi i ferch Pumla, dim byd crand, ond roedd y dagrau’n llifo.

Ar ddiwedd eu harhosiad, ymgasglodd yr holl deuluoedd lleol i ddweud ffarwel wrth eu ffrindiau newydd. Caniatawyd i Kate fynd ar y bws i ffarwelio â’r bobl eraill yr oedd hi wedi dod i’w hadnabod yn ystod yr wythnos. Dechreuodd y bws ar ei siwrne, a holais pawb ble roedd Kate? A’r funud nesaf roeddwn i’n brasgamu i lawr y ffordd yn ceisio rhedeg ar ôl y bws!

Does ryfedd fod eu hymweliad yn dal i aros yn y cof!

Karen

Karen Price, Gwirfoddolwr
Pwyllgor Cystadleuwyr

 

Oeddech chi’n gwybod fod angen 800 o wirfoddolwyr i lwyfannu Eisteddfod lwyddiannus?

Yn gytûn yn eu hymroddiad i’r ŵyl a’r pethau da y mae’n eu cynrychioli, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser a’u doniau yn ystod y flwyddyn ac mae llawer yn teithio o bell er mwyn rhoi help llaw yn ystod wythnos yr Eisteddfod. A hoffech chi ymuno â nhw?

Llangollen 2020: Diweddariad am COVID-19

Yn dilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth am y Coronafeirws, rydym wedi gwneud y penderfyniad i ohirio 74ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf 2020. Rydym yn awr yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid a’n hartistiaid i aildrefnu ar gyfer Llangollen 2021.

(rhagor…)

**Wedi ganslo** (Diweddariad 16/3/20) Eisteddfod Llangollen yn dathlu ‘cyfeillgarwch, cytgord ac ewyllys da’ wrth gynnal ei hail Gymanfa Ganu flynyddol

Cymanfa Ganu

DIWEDDARIAD 16/3/20

***Rydym wedi bod yn cadw llygad ar y Coronafeirws (COVID-19) wrth i’r sefyllfa ddatblygu ac wedi dod i’r penderfyniad i ganslo ein Cymanfa Ganu ar 27 Mawrth yn Eglwys Sant Collen. Bydd cwsmeriaid a oedd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y Cymanfa Ganu yn cael eu had-dalu.

Byddwn yn parhau i fonitro a chyfathrebu â chi ynghylch ein cynlluniau ar gyfer Llangollen 2020 ym mis Gorffennaf wrth i’r sefyllfa ddatblygu.***

(rhagor…)

Llangollen 2020 yn cyhoeddi première y DU o waith arbennig gyda’r Soprano o Gymru Elin Manahan Thomas a pherfformiad ‘Yn Arbennig i Langollen’ gan Only Men Aloud

Elin Manahan Thomas

Yr wythnos hon mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn datgelu mwy ar ei rhaglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020) fydd yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn y DU o Magnificat gan Bobbi Fischer gyda’r unawdydd Elin Manahan Thomas a pherfformiad ‘Yn Arbennig i Langollen’ gan Only Men Aloud.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Dr Edward-Rhys Harry:
Mae’n dipyn o bluen yn ein het i gael perfformiad cyntaf y DU o Magnificat gan Bobbi Fischer yn Llangollen 2020 ynghyd â gallu croesawu’r eithriadol Elin Manahan Thomas yn ôl i’r ŵyl. Mae hefyd wedi bod yn bleser gweithio’n agos gydag Only Men Aloud i greu repertoire arbennig yn seiliedig ar ein cenhadaeth sylfaenol o heddwch a chytgord ac mae’n argoeli y bydd yn berfformiad hyfryd ac unigryw gan y côr poblogaidd hwn.

Mae Asio (dydd Mercher 8 Gorffennaf) yn gweld elfennau cerddorol eclectig o wahanol ddiwylliannau yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd. Bydd rhan gyntaf y noson yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf yn y DU o Magnificat, sef gwaith y cyfansoddwr Bobbi Fischer o’r Almaen, lle mae’r gwaith corawl traddodiadol hwn wedi’i asio â rhythm a harmonïau America Ladin gyda Samba, Rhumba, Bossa Nova a Cha Cha.

(rhagor…)