Archifau Categori: Arbennig

Miloedd o bobl ifanc yn heidio i fwynhau cyngerdd Diwrnod y Plant

Bydd tua 4,000 o blant ysgol yn ymuno mewn diwrnod o gerddoriaeth a hwyl i godi’r llen ar Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Byddant yn teithio i’r Pafiliwn Rhyngwladol i gymryd rhan mewn cyngerdd o’r enw Bongos, Brass a Digonedd o Ddawns sy’n ganolbwynt i Ddiwrnod y Plant, y rhagarweiniad traddodiadol i’r ŵyl ddiwylliannol flynyddol sy’n cael ei llwyfannu rhwng 6 a 12 Gorffennaf. Bydd y swae gerddorol 40 munud o hyd yn cael ei llwyfannu ddwywaith, unwaith am 10.30yb ac eto am hanner dydd ar y diwrnod agoriadol, dydd Mawrth 7 Gorffennaf.
Bydd y dorf o ymwelwyr ifanc wedyn yn mynd allan ar faes yr Eisteddfod i fwynhau rhaglen lawn o theatr stryd yn cynnwys clown, cerddwyr ar stiltiau a dawnsio Bollywood. (rhagor…)

Gŵyl Llangollen yn cyfrannu £1.5m i’r Economi Leol

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cyfrannu £1.5 miliwn tuag at yr economi leol.

Dyna mae’r digwyddiad hanesyddol a blynyddol hwn yn ei olygu i ardal De Sir Ddinbych ac i dref Llangollen sydd wedi bod yn gartref i’r ŵyl ers 1947 ac a fydd yn estyn croeso i’r byd unwaith eto ym mis Gorffennaf.
Disgwylir bron 40,000 o ymwelwyr eleni eto i’r ŵyl enwog hon – lle y cychwynnodd gyrfa gerddorol rhai o sêr blaenllaw y byd opera fel Luciano Pavarotti. Mae denu cymaint o bobl o bedwar ban byd yn golygu chwistrelliad o arian fydd yn dderbyniol iawn gan fusnesau mewn cylch o 20 milltir i Langollen.

Y llynedd daeth 36,000 o bobl i’r Eisteddfod gan wario ar gyfartaledd £42 yr un bob dydd – roedd hyn yn golygu hwb rhyfeddol o £1.5 miliwn i’r economi leol. (rhagor…)

Ali Campbell o UB40 yn addo bod hyd yn oed yn well na Status Quo

Datgelwyd y bydd y cerddor o fri a ffurfiodd un o fandiau reggae gorau’r byd yn darparu penllanw bywiog iawn i ŵyl fawr.

UB40 with sunglasses

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi llwyddo i gael Ali Campbell, llais UB40 a werthodd 70 miliwn o recordiau, i ganu yn eu cyngerdd i gloi’r ŵyl ar nos Sul, 12 Gorffennaf.
Bydd dau aelod arall a sefydlodd UB40 yn ailymuno ag ef ar lwyfan yr eisteddfod – sef yr offerynnwr taro, chwaraewr trwmped a’r canwr, Astro a’r chwaraewr bysellfwrdd, Mickey.
Noddir y cyngerdd gan y cwmni arobryn Village Bakery, sef y cynhyrchwr sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. (rhagor…)

Burt Bacharach i berfformio yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed

Burt Bacharach

Mae trefnwyr gŵyl flaenllaw yn dathlu ar ôl llwyddo i gael y cawr cerddorol Burt Bacharach i berfformio yn nigwyddiad eleni.

Bydd Burt Bacharach, a ddisgrifiwyd gan lawer fel cyfansoddwr caneuon mwyaf yr 20fed ganrif, yn agor Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, gyda chyngerdd ychwanegol ar ddydd Llun, 6 Gorffennaf.
Roedd yr ŵyl yn wreiddiol i fod i ddechrau ar y diwrnod canlynol, ond nos Lun oedd yr unig amser yr oedd Burt Bacharach ar gael yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros 60 mlynedd mae 73 o ganeuon Bacharach wedi cyrraedd siart 40 uchaf yr Unol Daleithiau a llwyddodd 52 o’i ganeuon i gyrraedd 40 uchaf y DU. A does dim arwydd ei fod yn arafu chwaith wrth iddo ddweud ei fod yn edrych ymlaen at ei ymweliad cyntaf erioed â gogledd Cymru. (rhagor…)

Y tenor Alfie Boe yn addo noson o gerddoroiaeth hudol

Cerddoriaeth o’r llwyfan a’r sgrîn fawr yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Mae’r tenor nodedig Alfie Boe yn dychwelyd i ogledd Cymru.
Bydd y canwr clasurol, sydd â’r ddawn i doddi calonnau, ac sydd wedi gwerthu miliwn a hanner o ddisgiau, cyrraedd rhif un yn y siartiau clasurol nifer o weithiau a pherfformio ar Broadway, yn camu unwaith eto ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni.
Bydd Alfie, sydd wedi’i alw yn Hoff Tenor Prydain, yn perfformio caneuon o sioeau cerdd a ffilmiau cerddorol mewn cyngerdd disglair ar nos Iau, 9 Gorffennaf.
Yn ymuno ag ef bydd y gantores Gymreig, Sophie Evans, a aeth ymlaen i serennu fel Dorothy yng nghynhyrchiad y West End o The Wizard of Oz ar ôl dod yn ail yn sioe dalent Over the Rainbow ar y teledu. Yn rhannu’r llwyfan hefyd bydd y sacsoffonydd clasurol Amy Dickson, ynghyd â Jonathan Antoine, y tenor clasurol a ddaeth i enwogrwydd ar Britain’s Got Talent. (rhagor…)

Luciano Pavarotti

Mae perfformiad cyntaf y canwr opera enwog, Luciano Pavarotti, yn Llangollen yn fyw yng nghof un o hoelion wyth yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol.

Roedd y nyrs wedi ymddeol, Hafwen Ryder, yn dal i fod yn ei harddegau yn Ysgol Ramadeg Llangollen ac yn dywysydd gwirfoddol yn y babell fawr lle perfformiodd y Chorus Rossini o Modena yn yr Eidal i ennill cystadleuaeth y Corau Meibion ym 1955. Dywedodd Hafwen, 75 oed, sydd bellach yn byw yn y Waun: “Rwy’n cofio’r côr yn perfformio a’u bod nhw’n dda iawn ond wrth gwrs, doedd neb yn gwybod pwy oedd Pavarotti bryd hynny.

“Mae gen i argraffiad cyfyngedig o lun Pavarotti pan ddaeth yn ôl i’r Eisteddfod ym 1995 ac rwy’n hapus i roi benthyg hwnnw i arddangosfa Pavarotti fydd yn cael ei lwyfannu yn y digwyddiad ym mis Gorffennaf eleni.” (rhagor…)