Luciano Pavarotti

Mae perfformiad cyntaf y canwr opera enwog, Luciano Pavarotti, yn Llangollen yn fyw yng nghof un o hoelion wyth yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol.

Roedd y nyrs wedi ymddeol, Hafwen Ryder, yn dal i fod yn ei harddegau yn Ysgol Ramadeg Llangollen ac yn dywysydd gwirfoddol yn y babell fawr lle perfformiodd y Chorus Rossini o Modena yn yr Eidal i ennill cystadleuaeth y Corau Meibion ym 1955. Dywedodd Hafwen, 75 oed, sydd bellach yn byw yn y Waun: “Rwy’n cofio’r côr yn perfformio a’u bod nhw’n dda iawn ond wrth gwrs, doedd neb yn gwybod pwy oedd Pavarotti bryd hynny.

“Mae gen i argraffiad cyfyngedig o lun Pavarotti pan ddaeth yn ôl i’r Eisteddfod ym 1995 ac rwy’n hapus i roi benthyg hwnnw i arddangosfa Pavarotti fydd yn cael ei lwyfannu yn y digwyddiad ym mis Gorffennaf eleni.”

Mae’r Eisteddfod yn dechrau ar ddydd Mawrth, 7 Gorffennaf, ac yn rhedeg tan nos Sul, 12 Gorffennaf a bydd arddangosfa Pavarotti’n cofio 60ain mlwyddiant ymddangosiad 1955 y cawr cerddorol o’r Eidal ac yn nod 20 mlynedd ers iddo ddychwelyd i’r ŵyl.

Mae cysylltiadau Hafwen ei hun â’r ŵyl flynyddol yn mynd nôl hyd yn oed ymhellach. Dywedodd: “Roeddwn i’n wirfoddolwr yn fy nyddiau ysgol ac adroddais y Neges Heddwch ym 1953 – rwy’n cofio imi gael fy hyfforddi a’m profi i wneud yn siŵr y gallwn i ei wneud gan W S Gwyn Williams, y cyfarwyddwr cerdd, oherwydd roedd yn cael ei ddarlledu’n fyw’r dyddiau hynny.
“Roeddwn i yno hefyd ym 1953 pan ganodd Côr Obernkirchen The Happy Wanderer ac mae gen i gymaint o atgofion hapus o’r Eisteddfod.”
Daeth Hafwen yn ffrindiau ag un o ferched Obernkirchen, sef Erika Fisher, ac roedden nhw’n ffrindiau drwy’r post am dros 50 mlynedd tan farwolaeth Erika yn 2004 ond cafodd gyfle i’w chyfarfod eto pan ddychwelodd hi a’i gŵr i Langollen.
Mae cysylltiadau ei theulu ei hun â’r digwyddiad yn gryf hefyd – roedd ei brawd, Delwyn Lewis, sydd bellach wedi ymddeol, yn heddwas a arferai gyfeirio’r traffig yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a’i wraig Eira, sy’n dal i i fod yn brysur yn gwirfoddoli.
Aeth Hafwen, y mae ei merch Helen yn therapydd galwedigaethol yn Dundee, ymlaen i hyfforddi i fod yn nyrs yn Lerpwl ac, yn nes ymlaen dychwelodd i nyrsio yn Llangollen a’r Waun, a dywedodd: “Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad rhyfeddol ac mae wedi dangos y gallwch wneud ffrindiau gyda phobl sy’n dod yno i berfformio a bod y cyfeillgarwch hwnnw’n para am flynyddoedd.
“Roeddwn yn dywysydd am sawl blwyddyn ac roeddwn yn arfer gwerthu rhaglenni – roeddwn i’n arfer cael ceiniog am bob un a werthwyd gennym.
“Rwyf wyrth fy modd yn mynd i’r Eisteddfod o hyd, yn enwedig i gystadleuaeth Côr y Byd ar y dydd Sadwrn ac i’r cyngerdd ar y nos Sul os ydyw’n un da.”
Mae hi hefyd yn cofio Cadeirydd yr Eisteddfod, Gethin Davies, fel tywysydd nôl yn y 1950au ac mae o’n ei chofio hi hefyd ond nid yw’n cofio’r côr o Modena a lansiodd yrfa ddisglair Pavarotti.
“Mwy na thebyg mai meddwl am fy nghariad oeddwn i” meddai: “Ond rwy’n cofio Hafwen yn dda iawn yn adrodd y Neges Heddwch, dim ond yr ail un i’w wneud oedd hi.
“Rwy’n cofio Pavarotti’n dod i mewn ym 1995 a fi a’i cyflwynodd ar y llwyfan – mae’r cyngerdd yn dal i gael ei ddangos yn eithaf cyson ar sianel Sky Arts.
“Fi oedd y Cadeirydd ac rwy’n ei gofio’n dod i mewn yn chwifio’i hances ac mi roedd yn wych a chanodd ganeuon ardderchog, gan gynnwys un a gyfansoddodd ei hun. Arweiniodd y gynulleidfa hyd yn oed ac roedd pob un ohonom yn canu la la la yn gyfeiliant iddo.
“Fe’i cefnogwyd gan gôr Modena a oedd yn gôr cymysg erbyn hynny –côr meibion ydoedd ym 1955.
“Pavarotti ei hun mewn gwirionedd gychwynnodd y trefniadau i ddychwelyd. Dywedodd ei fod yn rhywbeth roedd wedi eisiau ei wneud erioed oherwydd y rhan chwaraeodd Llangollen yn ei yrfa.
“Dywedodd erioed mai ennill yn Llangollen ym 1955 a’i hargyhoeddodd y gallai droi canu’n yrfa iddo ac roedd yn iawn ond oedd?”
Mae gan Robin Argent, o Dalar Wen, Dinbych, atgofion melys hefyd o’r Eisteddfod ac o weld Pavarotti ym 1995.
Dywedodd: “Mae gen i’r tocynnau a gafodd fy ngwraig ddiweddar, Del a minnau, am £85 yr un o hyd. Arferai grŵp ohonom fynd i’r cyngerdd nos Sul bob blwyddyn, cael picnic ar y cae a mynd i lawr i’r cyngerdd ac rwy’n cofio’r un hwn yn arbennig.
“Tynnais ffoto o Pavarotti a’i chwyddo ac mae gen i’r union docynnau wedi’u fframio hefyd.
“Roedd yn hollol wych. Rwyf wedi gwylio’r digwyddiad ar y teledu ers hynny ac roedd yn wefreiddiol.”
Tenor arall fydd un o sêr Eisteddfod eleni, wrth i Alfie Boe berfformio caneuon o fyd y sioeau cerdd a’r ffilmiau yng nghyngerdd nos Iau, sy’n un o uchafbwyntiau wythnos lawn arall i’r Eisteddfod Ryngwladol gyda Diwrnod y Plant a Gorymdaith y Cenhedloedd ar y dydd Mawrth, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, ac yna cyngerdd Calon Llangollen i ddilyn gyda’r hwyr fydd yn cynnwys llond pafiliwn o dalent ryngwladol.
Bydd uchafbwyntiau dydd Mercher yn cynnwys perfformiadau cyntaf Cerddor Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn a Chôr Plant y Byd tra bydd cystadlaethau dydd Iau yn gweld carreg filltir arall, sef Tlws Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol.
Bydd Categori Agored dydd Gwener yn arddangos arddulliau cerddorol fel canu gospel, canu barbershop, jazz, pop a glee a bydd hefyd yn gweld pwy yw enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol, gyda’r wobr yn cynnwys cyfle i ganu yn un o’r cyngherddau nos yn y flwyddyn ganlynol.
Bydd y digwyddiad Rhuban Glas, sef cystadleuaeth Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, yn cael ei gynnal ar nos Sadwrn, yn ogystal â rownd derfynol Dawns Agored ac ar y dydd Sul bydd naws ymlaciol ac anffurfiol i ddigwyddiad Llanfest cyn cyrraedd uchafbwynt cyngerdd olaf yr Eisteddfod.
Mae awyrgylch braf a chyfeillgar maes yr Eisteddfod yn parhau trwy’r wythnos wrth i gannoedd o gystadleuwyr a miloedd o ymwelwyr gymysgu gyda’i gilydd gyda pherfformiadau byrfyfyr ymhob twll a chornel.
Gall ymwelwyr fwynhau cerddoriaeth fyw ar Lwyfan S4C, sydd â lle eistedd i 200 o bobl, ymuno mewn gweithdai dawns neu fwynhau’r awyrgylch llawn asbri trwy gydol yr wythnos wrth i gystadleuwyr o’r radd flaenaf berfformio mewn dathliad ysblennydd o ddiwylliannau gyda cherddoriaeth gorawl anhygoel a dawns traddodiadol bywiog, yn enwedig ar Ddydd Gwener Gwerin pryd bydd y llwyfannau awyr agored yn cynnwys cerddoriaeth a dawns rhyngwladol o’r safon uchaf.