Ali Campbell o UB40 yn addo bod hyd yn oed yn well na Status Quo

Datgelwyd y bydd y cerddor o fri a ffurfiodd un o fandiau reggae gorau’r byd yn darparu penllanw bywiog iawn i ŵyl fawr.

UB40 with sunglasses

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi llwyddo i gael Ali Campbell, llais UB40 a werthodd 70 miliwn o recordiau, i ganu yn eu cyngerdd i gloi’r ŵyl ar nos Sul, 12 Gorffennaf.
Bydd dau aelod arall a sefydlodd UB40 yn ailymuno ag ef ar lwyfan yr eisteddfod – sef yr offerynnwr taro, chwaraewr trwmped a’r canwr, Astro a’r chwaraewr bysellfwrdd, Mickey.
Noddir y cyngerdd gan y cwmni arobryn Village Bakery, sef y cynhyrchwr sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.

Dywedodd Robin Jones, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Fel cwmni teuluol a lleol, rydym yn falch ein bod ni wedi cefnogi Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers nifer o flynyddoedd.
“Mae UB40 wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y byd cerddorol, felly mae’n briodol mai Ali Campbell, Astro a Mickey fydd yn dod â’r Eisteddfod Ryngwladol i ben eleni. Bydd ni’n noson a hanner.”
Ymhlith y sêr sy’n perfformio eleni hefyd mae’r cyfansoddwr a enillodd Oscar, Burt Bacharach a fydd yn agor yr ŵyl ar ddydd Llun, 6 Gorffennaf a’r canwr clasurol nodedig Alfie Boe, a fydd yn perfformio caneuon o fyd y sioeau cerdd a’r ffilmiau ar nos Iau, 9 Gorffennaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths: “Bydd y cyngerdd gydag Ali Campbell, sef llais chwedlonol UB40, gydag Astro a Mickey yn noson hollol wych ac mae’n siŵr y byddan nhw’n codi to’r pafiliwn.
“Fe fydd hi’n benllanw addas i wythnos wirioneddol gyffrous o adloniant o safon ryngwladol – fedra i ddim aros.”
Mae Campbell, a adawodd yr UB40 gwreiddiol, ynghyd â Mickey yn 2008, yn mwynhau chwarae i gynulleidfaoedd dan ei sang ym mhedwar ban byd ac mae’n edrych ymlaen at ei ymweliad cyntaf â Llangollen.
Ond mae Campbell yn cyfaddef nad oedd pethau’r un fath hyd nes i Astro gerdded i ffwrdd o weddill aelodau band UB40 yn 2014 ac ailymuno â Mickey ac yntau.
Dywedodd: “Rydym nôl ar ein hymgyrch i fynd â cherddoriaeth reggae i’r byd.
Gallaf addo nad yw Llangollen erioed wedi gweld cyngerdd debyg i’r un rydym yn bwriadu ei llwyfanu. Rwy’n gwybod i Status Quo fod yno llynedd, ond gallaf addo i chi y byddwn yn eu curo!
Ganed a magwyd Campbell, y tad i wyth o blant, sydd bellach yn 56 oed, yn Birmingham a dywed bod ei gariad at reggae’n dod o’r ffaith fod y rhan fwyaf o’i ffrindiau cynnar o dras India’r Gorllewin ac yn gwrando ar reggae y rhan fwyaf o’r amser.
Ychwanegodd: “Mae reggae’n rhoi rhywbeth gwahanol i chi, rhyddid efallai. Dyma yn ôl pob tebyg yw’r genre ieuengaf sydd o gwmpas ond rwy’n gwrando ar gerddoriaeth o bedwar ban byd ac mae dylanwad reggae yn enfawr. Mae mor ddylanwadol.
“Yn 1978, fi oedd un o’r aelodau a sefydlodd UB40, gydag Astro a Mickey. A fi oedd y prif gyfansoddwr. Mi wnaethon ni werthu dros 70 miliwn o recordiau ledled y byd a theithio o gwmpas y byd am dros 30 o flynyddoedd.
“Penderfynwyd ar yr enw UB40 oherwydd tynnodd ffrind i mi, Andy Nash, sylw at y ffaith ein bod ni i gyd ar y clwt ar y pryd ac awgrymodd ein bod ni’n enwi ein hunain ar ôl Ffurflen Budd-dal Diweithdra 40 y llywodraeth, neu UB40 fel yr oedd yn cael ei hadnabod.
“Mae’n bosibl i hwn fod yn well dewis ar gyfer enw band na’r un roedden ni wedi rhyw fath o benderfynu arno, sef Geoff Cancer and the Nicorettes!”
“Rydym wedi bod yn cefnogi reggae byth ers hynny. Rydym yng nghanol taith fyd-eang sy’n mynd yn wych. Y gwir amdani yw mai ni yw’r band reggae gorau sydd ar hyd y lle. Os ydych chi’n chwilio am reggae go iawn a’r UB40 go iawn, wel dewch i wrando arnom ni!
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi perfformio yn Awstralia a Seland Newydd, lle’r oeddwn yn un o’r tri beirniad ar New Zealand’s Got Talent, a Papua New Guinea.
“Rydym yn gwerthu pob tocyn ble bynnag yr awn ni, mae pobl am glywed y sain reggae UB40 go iawn a dyna beth fyddwn ni’n ei roi iddynt.
“Fy nymuniad i yw cyflwyno’r sioe orau bosibl a dyna rwy’n ei addo i gefnogwyr UB40 sy’n dod i weld ein sioeau. Ni fydd Llangollen wedi gweld unrhyw beth tebyg, mae mor syml â hynny.”
Bydd y cyngerdd yn uchafbwynt i wythnos lawn arall i’r Eisteddfod Rhyngwladol gyda Diwrnod y Plant a Gorymdaith y Cenhedloedd ar y dydd Mawrth, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, ac yna cyngerdd Calon Llangollen i ddilyn gyda’r hwyr fydd yn cynnwys llond pafiliwn o dalent ryngwladol.
Bydd uchafbwyntiau dydd Mercher yn cynnwys perfformiadau cyntaf Cerddor Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn a Chôr Plant y Byd tra bydd cystadlaethau dydd Iau yn gweld carreg filltir arall, sef Tlws Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol.
Bydd Categori Agored dydd Gwener yn arddangos arddulliau cerddorol fel canu gospel, canu barbershop, jazz, pop a glee a bydd hefyd yn gweld pwy yw enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol, gyda’r wobr yn cynnwys cyfle i ganu yn un o’r cyngherddau nos yn y dyfodol.
Bydd y digwyddiad Rhuban Glas, sef cystadleuaeth Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, yn cael ei gynal ar nos Sadwrn, yn ogystal â rown dderfynol Dawns Lucile Armstrong Terfynol ac ar y dydd Sul bydd naws ymlaciol ac anffurfiol i ddigwyddiad Llanfest cyn cyrraedd uchafbwynt cyngerdd olaf yr Eisteddfod.