Gŵyl Llangollen yn cyfrannu £1.5m i’r Economi Leol

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cyfrannu £1.5 miliwn tuag at yr economi leol.

Dyna mae’r digwyddiad hanesyddol a blynyddol hwn yn ei olygu i ardal De Sir Ddinbych ac i dref Llangollen sydd wedi bod yn gartref i’r ŵyl ers 1947 ac a fydd yn estyn croeso i’r byd unwaith eto ym mis Gorffennaf.
Disgwylir bron 40,000 o ymwelwyr eleni eto i’r ŵyl enwog hon – lle y cychwynnodd gyrfa gerddorol rhai o sêr blaenllaw y byd opera fel Luciano Pavarotti. Mae denu cymaint o bobl o bedwar ban byd yn golygu chwistrelliad o arian fydd yn dderbyniol iawn gan fusnesau mewn cylch o 20 milltir i Langollen.

Y llynedd daeth 36,000 o bobl i’r Eisteddfod gan wario ar gyfartaledd £42 yr un bob dydd – roedd hyn yn golygu hwb rhyfeddol o £1.5 miliwn i’r economi leol.

Mae’r Eisteddfod eleni yn cychwyn ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 7fed, ac yn mynd ymlaen hyd ddydd Sul, Gorffennaf 12fed. Yn barod, mae cyngerdd nos Iau yn ymddangos yn atyniad arbennig iawn – cyngerdd lle bydd Alfie Boe yn cael cwmni Jonathan Antoine, seren Britain’s Got Talent, ar lwyfan yr Ŵyl.
Mae rhestr y perfformwyr cerddorol blaenllaw yn cynnwys y cerddor byd-enwog Burt Bacharach (sydd hefyd ag Oscar i’w enw), Rufus Wainwright, y canwr poblogaidd a’r cyfansoddwr caneuon o Ganada, Gareth Malone y côr feistr a Catrin Finch, a fu am gyfnod yn gwasanaethu fel y delynores frenhinol.
Atyniad mawr arall fydd Ali Campbell, llais UB40 y gwerthwyd 70 miliwn o’u recordiau, ac ar y llwyfan gydag ef bydd dau aelod gwreiddiol arall o’r grŵp sef Astro – yr offerynnwr taro, chwaraewr trwmped a lleisydd – a’r chwaraewr bysellfwrdd Mickey.
Yn y cyfamser, mae aelodau clwb dilynwyr Jonathan Antoine, y Fantoines, yn paratoi at ymweld â Llangollen ac yn teithio o bell ac agos, o bob cwr o Brydain, o Ewrop a hyd yn oed o Dubai.
Dywed Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, bod yr ymateb i’r newydd bod seren Britain’s Got Talent yn ymddangos yn Llangollen wedi bod yn rhyfeddol.
Meddai: “Mae gan Jonathan Antoine dalent go iawn ac mae ganddo heb ddim amheuaeth yrfa ddisglair o’i flaen. Dydw i ddim yn wir yn synnu bod cymaint o’i ddilynwyr wedi dangos diddordeb ac wedi archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd.
“Ac mae’r pellteroedd anhygoel y mae dilynwyr yn fodlon eu teithio – a’r mwyafrif ohonynt yn sicrhau llety yn Llangollen a’r cylch – yn dangos yn glir bod yr ŵyl yn gwneud cyfraniad enfawr a phositif tuag at economi’r rhanbarth.
“Mi fydd hon yn noson arbennig iawn o gerddoriaeth ac rydw i’n edrych ymlaen at groesawu rhai o ‘Fantoines’ Jonathan i Langollen.”
Mae AC De Clwyd, Ken Skates, sydd hefyd yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yn gefnogol iawn i Eisteddfod Llangollen.
Dywedodd: “Rydw i wrth fy modd gyda’r Eisteddfod Ryngwladol a llynedd fe gefais y fraint o fod yn Is-lywydd yr ŵyl. Mae’n ddigwyddiad unigryw ac yn em werthfawr yng nghoron ddiwylliannol Cymru.
“Mae’r Eisteddfod yn gyfle gwych i Langollen ei amlygu ei hun a rhoi hwb anferth i’r economi leol, ond mae hefyd yn hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol – mae hyn yn bwysig iawn i ni yn ein hymdrech i gryfhau ac ehangu twristiaeth yng Nghymru.”
Roedd y newydd bod yr Eisteddfod wedi cyfrannu £1.5 miliwn tuag at economi’r ardal yn fiwsig i glust Cadeirydd yr ŵyl, Gethin Davies.
Dywedodd: “Ers blynyddoedd lawer, mae Llangollen wedi bod yn enwog fel y dref lle bydd Cymru yn croesawu’r byd.
“Mae’r Eisteddfod wedi derbyn canmoliaeth bob amser am y cyfoeth diwylliannol a ddaw i’r ardal yn ei sgil, ac rydw i innau wrth fy modd bod y digwyddiad yn derbyn cydnabyddiaeth hefyd am y cyfoeth economaidd y mae’n ei gynhyrchu.”
Ymysg yr ymwelwyr eleni bydd y gyn athrawes Jan Smith, 62 oed, o Andover, Hampshire, sydd yn ei disgrifio ei hun fel y ‘Prif Fantoine’ a bydd yn archebu tocynnau i’r cyngerdd fesul bloc fel bod dilynwyr yn gallu eistedd gyda’i gilydd, mae hefyd yn hyrwyddo gwefan Jonathan Antoine ac yn cynnal gwefan arbennig iddo ef.
Dywedodd hi: “Byddaf yn teithio i fyny ddydd Iau i gael gweld yr Eisteddfod cyn y sioe. Byddaf yn dod gyda ffrind ac rydym wedi trefnu llety yn Wrecsam.
“Rydw i wedi archebu bloc o docynnau ar gyfer y Fantoines ac mae gennym bobl o bob cwr o Brydain, o Ddenmarc ac o’r Almaen – a hyd yn oed o Dubai – yn edrych ymlaen at y cyngerdd.”
Roedd Jan wedi ei gwefreiddio pan welodd Jonathan gyntaf ar lwyfan Britain’s Got Talent ac meddai: “Neidio o un sianel i’r llall yr oeddwn y noson honno a dyma weld Jonathan a Charlotte Jaconelli (ei bartner canu bryd hynny) yn cerdded allan ar y llwyfan. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy synnu – doedd o ddim yn edrych fel cerddor.
“Ond fe ddechreuodd ganu. Mae ganddo lais sydd yn eich cyfareddu – yn creu’r teimlad ei fod o’n canu i chi ac i chi yn unig. Rydw i wedi colli dagrau fwy nag unwaith wrth wrando arno.”
Bydd Pam Rose, 71 oed, yn teithio mewn camperfan o’i chartref yn Hemel Hempstead i Langollen ar gyfer y cyngerdd ac yn aros am dri diwrnod.
Meddai Pam: “Rydw i wedi gwirioni efo Jonathan. Fyddai ddim yn gwylio Britain’s Got Talent ond trwy hap a damwain fe ddigwyddais wrando ar ei gyfweliad ef a Charlotte Jaconelli.
“Dyna lle’r oedd y bachgen ifanc 17 oed hwnnw – yn ordew ac yn gwisgo crys-T digon blêr. Ond pan ddechreuodd ganu mi gefais fy hudo. Erbyn hyn rydw i wedi ei weld nifer o weithiau – unwaith mewn cyngerdd gyda Russell Watson yn y Royal Festival Hall.”
Mae Liz Whelan, 60 oed, sy’n swyddog gweinyddol gyda’r GIG, yn teithio i Langollen ar gyfer y cyngerdd o’i chartref yn Glasgow gyda’i chwaer Janice Leleux, 57 oed, a’u mam Elizabeth Wortman sy’n 79 oed.
Meddai Liz: “Byddwn yn aros mewn gwesty yn Wrecsam am ychydig nosweithiau. Fe ddigwyddais weld cyfweliad Jonathan a Charlotte ar gyfer Britain’s Got Talent a phan ddechreuodd ganu – wow!
“Wn i ddim beth sydd mor arbennig ynghylch Jonathan ond mae ei lais mor bwerus ac mor anhygoel – fe gipiodd fy nghalon yn syth!
“Dyna brynu ei albwm a’i chwarae yn y car. Bu raid i mi dynnu i’r ochr, roedd y dagrau yn llifo ac yn fy rhwystro rhag gweld yn iawn. Mae ei lais mor fendigedig.”
Bydd Sally Anne Adams yn teithio i Langollen o Essex a dyma ei geiriau hi: “Rydw i wedi teithio ledled Prydain i weld Jonathan yn perfformio. Y tro cyntaf i mi ei weld yng Ngorsaf St Pancras fe fûm mor ddewr â gofyn am lun efo fo – fe gytunodd yn syth ond yn fwy na hynny roedd ei fam yn gwybod pwy oeddwn oddi wrth sylw roeddwn wedi ei roi ar ei dudalen. Roedd hyd yn oed yn cofio fy enw.”
Bydd yr Eisteddfod hefyd yn cynnwys Diwrnod y Plant a Gorymdaith y Cenhedloedd ar y dydd Mawrth, gyda Llywydd yr Eisteddfod Terry Waite yn ei arwain – hyn i gyd yn ein paratoi ar gyfer y cyngerdd Calon Llangollen gyda’r nos lle bydd myrdd o dalentau rhyngwladol yn ymddangos.
Bydd uchafbwyntiau dydd Mercher yn cynnwys cyflwyno gwobrau Cerddor Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn a Chôr Plant y Byd a bydd cystadlaethau dydd Iau yn cynnwys gwobr newydd sbon sef Cwpan Llais Theatr Cerdd Rhyngwladol.
Bydd y Categori Agored ar gyfer corau ddydd Gwener hefyd yn cynnwys gwahanol arddulliau fel gospel, barbershop, jazz, pop a glee ac yn ogystal bydd y beirniaid yn dyfarnu enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol a’r wobr yn cynnwys cyfle i ganu mewn un o’r cyngherddau nos yn y dyfodol.
Caiff gwobr y Rhuban Glas a Chwpan Pavarotti i Gôr y Byd eu dyfarnu ar y nôs Sadwrn a dyna hefyd pryd y cynhelir rownd derfynol Dawns Lucile Armstrong. Yna ddydd Sul bydd yr Eisteddfod yn ymlacio ar gyfer Llanfest cyn y cyngerdd olaf a chloi’r wythnos gydag Ali Campbell, Astro a Mickey.