Miloedd o bobl ifanc yn heidio i fwynhau cyngerdd Diwrnod y Plant

Bydd tua 4,000 o blant ysgol yn ymuno mewn diwrnod o gerddoriaeth a hwyl i godi’r llen ar Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Byddant yn teithio i’r Pafiliwn Rhyngwladol i gymryd rhan mewn cyngerdd o’r enw Bongos, Brass a Digonedd o Ddawns sy’n ganolbwynt i Ddiwrnod y Plant, y rhagarweiniad traddodiadol i’r ŵyl ddiwylliannol flynyddol sy’n cael ei llwyfannu rhwng 6 a 12 Gorffennaf. Bydd y swae gerddorol 40 munud o hyd yn cael ei llwyfannu ddwywaith, unwaith am 10.30yb ac eto am hanner dydd ar y diwrnod agoriadol, dydd Mawrth 7 Gorffennaf.
Bydd y dorf o ymwelwyr ifanc wedyn yn mynd allan ar faes yr Eisteddfod i fwynhau rhaglen lawn o theatr stryd yn cynnwys clown, cerddwyr ar stiltiau a dawnsio Bollywood.

Hefyd, bydd perfformiadau dawns a cherddoriaeth ar y llwyfannau y tu allan a chyfres o weithdai.
Cynhelir y gystadleuaeth i gorau ieuenctid am 1.30pm a prif ddigwyddiad y diwrnod fydd yr orymdaith liwgar o gystadleuwyr a fydd yn dechrau ymlwybro trwy’r dref am 4.30pm.
Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiad cyffrous gan The Alto Brass Ensemble, sy’n cynnwys pumawd o rai o chwaraewyr pres gorau Cymru yn ogystal â dau offerynnwr taro. Enillodd un o’r rhain, Owen Gunnell, wobr Cerddor Ifanc y Flwyddyn BBC yn 2000 ac mae wedi mynd ymlaen i fod yn seren yn y cylch perfformio rhyngwladol.
Mae Diwrnod y Plant yn cael ei noddi gan sefydliad gofal Parc Pendine sydd hefyd yn cefnogi cyngerdd Alfie Boe ar ddydd Iau 9 Gorffennaf.
Mae enwau eraill mawr yn cynnwys Burt Bacharach, sydd ag Oscar i’w enw, y canwr a’r cerddor o Ganada Rufus Wainwright a’r arweinydd corau teledu enwog, Gareth Malone.
Hefyd, bydd perfformiad cyntaf o waith newydd i ddathlu 150 o flynyddoedd y Wladfa ym Mhatagonia mewn cyngerdd a fydd yn rhoi llwyfan i’r gyn-delynores frenhinol, Catrin Finch.
Ar gyfer y cyngerdd olaf, bydd Ali Campbell, llais UB40 sydd wedi gwerthu 70 miliwn o recordiau, yn camu ar lwyfan yr Eisteddfod i ailymuno â dau o aelodau cynnar a sefydlodd y grŵp, sef yr offerynnwr taro, chwaraewr trymped a’r canwr Astro, a’r chwaraewr bysellfwrdd Mickey mewn cyngerdd a noddir gan Village Bakery.
Mae rhaglen cyngerdd Diwrnod y Plant wedi’i deilwra i apelio at gynulleidfa ifanc ac mae’n cynnwys nifer o themâu cyffrous o’r ffilmiau enw Pirates of the Caribbean a Monsters Inc.
Mae Owen Gunnell yn enwog am ei arbenigedd mewn cyflwyno plant i gynnwrf cerddoriaeth.
Yn 2003, graddiodd o’r Coleg Cerdd Brenhinol ac mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Sinfonietta Llundain, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, Britten Sinfonia, Cerddorfa Symffoni Macedonia, Cerddorfa Frenhinol Genedlaethol yr Alban, Cerddorfa Symffoni Melbourne a’r Sinfonia Viva.
Mae’n un rhan o’r ddeuawd taro, O Duo, sydd wedi ennill nifer o wobrau ac wedi perfformio a chael eu darlledu ar deledu a radio dros y byd.
Mae O Duo hefyd yn adnabyddus fel cyfarwyddwyr creadigol Cyngherddau Clasurol i Blant yn yr Alban, gan ddewis perfformwyr a pherfformio mewn amrywiaeth o gyngherddau o faint siambr i faint cerddorfa symffoni.
Mae Owen, sydd yn byw yn East Anglia, ond sydd â chysylltiadau teuluol â De Cymru trwy ei rieni, yn addo y bydd y digwyddiad yn “hwyl, yn slic, ac yn rhyngweithiol”.
Dywedodd: “Rwyf wedi gweithio cryn dipyn gyda phlant dros y blynyddoedd, felly rwy’n gwybod bod rhaid i chi roi rhywbeth iddyn nhw sy’n eu diddanu. Rwy’n credu y byddwn ni’n sicr yn gwneud hynny gyda’r rhaglen rydym wedi’i dewis.
“Rydym hefyd yn bwriadu cael rhai o’r plant yn y gynulleidfa i ddod ar y llwyfan er mwyn trio chwarae rhai o’r offerynnau taro eu hunain, fel seiloffonau a fibraffonau.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn Llangollen ar gyfer achlysur mor wych.”
Ar wahân i’r ensemble, bydd perfformiadau lliwgar gan nifer o’r grwpiau dawns sy’n perfformio yn yr Eisteddfod yn ddiweddarach yn yr wythnos a gweithdai cerddorol y gwahoddir plant i ymuno ynddynt.
Uchafbwynt arall yn y cyngerdd fydd cyflwyno’r Neges Heddwch traddodiadol.
Ers 1952, mae pobl ifanc wedi anfon neges ingol o Heddwch ac Ewyllys Da o lwyfan yr Eisteddfod yn ystod cyngerdd Diwrnod y Plant.
Eleni, bydd y neges yn cael ei gyflwyno gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Mountain Lane ym Mwcle.
Yn nes ymlaen ar Ddiwrnod y Plant, mae gwledd gerddorol arall wedi’i chynllunio er mwyn cyffroi’r gynulleidfa ifanc yn y Pafiliwn sef cystadleuaeth y côr ieuenctid fydd yn cynnwys cantorion o 10 ysgol.
Mae’r cystadleuwyr yn dod o ledled Cymru, Lloegr a chyn belled ag Ysgol Gynradd St Paul’s Co-ed yn Hong Kong.
Trwy gydol y dydd o 8.30am gall ymwelwyr ifanc â’r Eisteddfod fwynhau amrywiaeth lliwgar o weithgareddau i blant ar y maes gan gynnwys gweithdai dawnsio Bollywood a theatr stryd yn cynnwys clowniau, cerddorion a cherddwyr ar stiltiau.
I gloi diwrnod prysur, bydd yr Orymdaith Ryngwladol yn digwydd, lle mae cystadleuwyr o’r byd i gyd yn arddangos eu gwisgoedd cenedlaethol, gan chwifio’u fflagiau, trwy dorfeydd o faes yr Eisteddfod i ganol tref Llangollen. Byddant yn cael eu harwain gan fandiau a llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, fydd yn teithio mewn cerbyd heb do.
Mae Diwrnod y Plant yn cael ei noddi gan sefydliad gofal llwyddiannus Parc Pendine sydd hefyd yn noddi’r cyngerdd gan y tenor byd-enwog Alfie Boe ar lwyfan y Pafiliwn nos Iau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod Eilir Owen Griffiths: “Bydd y pwyslais yn gryf ar Ddiwrnod y Plant ar ddiddanu.
Mae’n addo bod yn ddiwrnod gwych sydd yn cyd-fynd â nifer o ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gysylltu ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang â diwylliant gyda phrofiad pleserus.
“Mae’r cyngerdd gan The Alto Brass Ensemble wedi’i ddylunio i gyflwyno plant i’r teulu o offerynnau pres a rhagwelir y bydd yn un o brofiadau cyngerdd mwyaf rhyngweithiol yr Eisteddfod erioed.
“Mae rhaglen y cyngerdd yn cynnwys dau ddarn – y themâu o Pirates of the Caribbean a Monsters Inc – a bydd plant yn gallu uniaethu â’r rhain a’u mwynhau yr un pryd.
“Rydym wrth ein boddau yn cael Owen Gunnell fel rhan o’r ensemble. Mae’n offerynnwr taro ag enw da rhyngwladol ac yn adnabyddus am y ffordd mae’n gweithio gyda phlant mewn ffordd ddiddorol a hwyliog.
“Mae’r Neges Heddwch eleni, fydd yn cael ei gyflwyno gan blant o Ysgol Gynradd Mountain Lane ym Mwcle, ar thema ‘un llais’ sy’n arwyddocaol o’r ffordd mae plant o nifer o wledydd yn dod at ei gilydd i gyd-ganu gydag un llais yn yr Eisteddfod.”