Mae trefnwyr gŵyl flaenllaw yn dathlu ar ôl llwyddo i gael y cawr cerddorol Burt Bacharach i berfformio yn nigwyddiad eleni.
Bydd Burt Bacharach, a ddisgrifiwyd gan lawer fel cyfansoddwr caneuon mwyaf yr 20fed ganrif, yn agor Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, gyda chyngerdd ychwanegol ar ddydd Llun, 6 Gorffennaf.
Roedd yr ŵyl yn wreiddiol i fod i ddechrau ar y diwrnod canlynol, ond nos Lun oedd yr unig amser yr oedd Burt Bacharach ar gael yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros 60 mlynedd mae 73 o ganeuon Bacharach wedi cyrraedd siart 40 uchaf yr Unol Daleithiau a llwyddodd 52 o’i ganeuon i gyrraedd 40 uchaf y DU. A does dim arwydd ei fod yn arafu chwaith wrth iddo ddweud ei fod yn edrych ymlaen at ei ymweliad cyntaf erioed â gogledd Cymru.
Mae Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, wrth ei fodd fod y cyfansoddwr arobryn, sydd wedi ennill tair gwobr Oscar ac wyth Grammy, gan gynnwys y Wobr Cyflawniad Oes yn 2008 a Gwobr yr Ymddiriedolwyr yn 1997 ar y cyd â’i gydweithiwr Hal David, wedi cytuno i ymddangos ar lwyfan yr ŵyl.
Dywedodd: “Burt Bacharach yw un o’r enwau mwyaf yn y pantheon o enwogion cerddorol.
“Pan ddywedodd Burt y gallai ddod ar y nos Lun roedd yn gyfle rhy dda i’w golli. Hwn fydd y tro cyntaf ac yn ôl pob tebyg yr unig dro iddo ddod i ogledd Cymru.
“Rwyf ar ben fy nigon o feddwl am gael gweld a chlywed yr athrylith ysgrifennu caneuon yma yn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn. Mae’n dipyn o gamp i’r Eisteddfod lwyddo i’w ddenu yma.”
Mae’r sêr sydd eisoes ar raglen gŵyl eleni yn cynnwys y canwr clasurol Alfie Boe a fydd yn perfformio caneuon o sioeau cerdd a ffilmiau cerddorol ychydig ddyddiau’n ddiweddarach mewn cyngerdd mawreddog ar nos Iau, 9 Gorffennaf.
Yn ymuno â’r tenor poblogaidd bydd y gantores Gymreig, Sophie Evans, a aeth ymlaen i serennu fel Dorothy yng nghynhyrchiad y West End o The Wizard of Oz ar ôl dod yn ail yn sioe dalent Over the Rainbow ar y teledu. Yn rhannu’r llwyfan hefyd bydd y sacsoffonydd clasurol Amy Dickson, ynghyd â Jonathan Antoine, y tenor clasurol a ddaeth i enwogrwydd ar Britain’s Got Talent.
Yn ôl Burt Bacharach, mae’n edrych ymlaen yn eiddgar i gael blasu awyrgylch unigryw Eisteddfod Llangollen.
Meddai: “Mae gen i fand o dri chanwr ac wyth o gerddorion, er ein bod yn chwarae gyda cherddorfeydd mwy mewn rhai lleoliadau. Rwyf ond yn chwarae a pherfformio caneuon yr wyf i wedi eu cyfansoddi, ac mae fy holl gyngherddau yn ymwneud â fy ngherddoriaeth i.
“Rydym yn chwarae am tua dwy awr; mae’n well gen i hynny na mynd ar y llwyfan gyda rhestr benodol o rhyw 10 cân. Rwyf am i bobl ddod allan a theimlo eu bod wedi cysylltu â’m cerddoriaeth ac fy mod i wedi rhoi rhyw ran ohonof i fy hun iddynt, rhywbeth pendant y gallan nhw ei gymryd adref gyda nhw a’i gofio.”
Daeth llwyddiant cyntaf Bacharach yn ôl ym mis Tachwedd 1957, sef Story of My Life, a ysgrifennwyd ar y cyd â Hal David. Cyrhaeddodd y gân rif 15 yn siartiau’r Unol Daleithiau i Marty Robbins, a llwyddodd fersiwn Michael Holliday o’r gân i gyrraedd rhif 1 yn y DU.
Dechreuodd Bacharach a David weithio yn y Brill Building enwog yn Efrog Newydd, adeilad a ddisgrifiwyd gan Burt fel ffatri cerddoriaeth. A chydweithiodd y ddau unwaith eto i gyfansoddi Magic Moments, cân a fu’n llwyddiant anferth i Perry Como gan gyrraedd rhif un yn siartiau’r DU unwaith eto.
Dim ond y cychwyn oedd y llwyddiant cynnar yma wrth i’w ganeuon gyrraedd brig y siartiau dro ar ôl tro, a chael eu perfformio gan artistiaid fel The Drifters, Gene Pitney, Andy Williams, ac wrth gwrs Sandie Shaw â’i chân enwog ‘There’s Always Something There to Remind Me’.
Ond daeth y llwyddiant mwyaf i ran Bacharach a David wrth iddynt gyfansoddi caneuon ar gyfer Dionne Warwick, yn enwedig rhai fel ‘Do You Know The Way to San Jose?’ ac ‘I Say a Little Prayer’ er eu bod hefyd wedi cael llwyddiant mawr gyda chaneuon i Dusty Springfield, Johnny Mathis, The Stylistics a Gloria Gaynor.
Cyrhaeoddodd y Carpenters frig y siartiau ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd hefyd gyda chân o eiddo Bacharach a David, sef ‘(They Long to Be) Close To You’.
Yn ogystal ag ysgrifennu cyfres o ganeuon poblogaidd llwyddiannus, mae Bacharach hefyd wedi mwynhau gyrfa nodedig yn Hollywood hefyd.
Yn wir mae’n dweud mai un o’i ffefrynnau personol o hyd yw’r gân Alfie,a ysgrifennodd yn 1966, ac a fu’n llwyddiant ar adegau gwahanol i Dionne Warwick, Cher a Cilla Black, ac mae’n dal i fod yn falch iawn o’r gân.
Dywedodd: “I mi, roedd Alfie yn berffaith. Mae holl siâp a ffurf y gerddoriaeth a’r geiriau yn gweddu i’r dim. Gallaf wrando ar ambell i gân fil o weithiau a dymuno mod i wedi gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol. Ond roedd Alfie yn iawn o’r cychwyn.
“Roedd yn siom enfawr i ni golli allan ar Wobr yr Academi am Alfie, ond cawsom ein curo gan Born Free.”
Ond fe aeth ymlaen i ennill dwy Wobr Academi a Grammy yn 1969 am ‘Raindrops Keep Fallin’ On My Head’, sef cân y ffilm Butch Cassidy and the Sundance Kid, yn ogystal â’r Oscar yn 1981 am y Gân Orau yn y ffilm Arthur, sef Arthur’s Theme (The Best That You Can Do).
Yn ogystal â theithio mae Burt Bacharach yn dal i gyfansoddi cerddoriaeth ac ysgrifennu caneuon ac ar ôl ryddhau albwm o’r enw Painted from Memory gydag Elvis Costello, ac ennill Grammy am y sengl ‘I Still Have That Other Girl’, mae’r ddau yn cydweithio unwaith eto ac yn ysgrifennu sioe gerdd â’i gilydd.
Bydd cyngerdd Burt Bacharach yn un o uchafbwyntiau wythnos lawn arall i’r Eisteddfod Rhyngwladol gyda Diwrnod y Plant a Gorymdaith y Cenhedloedd ar y dydd Mawrth, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, ac yna cyngerdd Calon Llangollen i ddilyn gyda’r hwyr fydd yn cynnwys llond pafiliwn o dalent ryngwladol.
Bydd uchafbwyntiau dydd Mercher yn cynnwys perfformiadau cyntaf Cerddor Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn a Chôr Plant y Byd tra bydd cystadlaethau dydd Iau yn gweld carreg filltir arall, sef Tlws Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol.
Bydd Categori Agored dydd Gwener yn arddangos arddulliau cerddorol fel canu gospel, canu barbershop, jazz, pop a glee a bydd hefyd yn gweld pwy yw enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol, gyda’r wobr yn cynnwys cyfle i ganu yn un o’r cyngherddau nos yn y dyfodol.
Bydd y digwyddiad Rhuban Glas, sef cystadleuaeth Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, yn cael ei gynal ar nos Sadwrn, yn ogystal â rown dderfynol Dawns Lucile Armstrong Terfynol ac ar y dydd Sul bydd naws ymlaciol ac anffurfiol i ddigwyddiad Llanfest cyn cyrraedd uchafbwynt cyngerdd olaf yr Eisteddfod.