Perfformiwr o Benarth yn Diddanu yn Awstralia

Cantores Gymraeg, a brofodd fuddugoliaeth yn Llangollen, yn creu argraff  yn Eisteddfod yr Arfordir Aur

Fe wnaeth Jodi Bird, 21, o Benarth, a enillodd gystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2019 yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni, hedfan i Awstralia’r wythnos diwethaf i berfformio fel rhan o’i gwobr.

Bu i’r cyn-ddisgybl o Ysgol Bro Morgannwg ganu ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol gan ennill y teitl mawreddog ynghyd â gwobr ariannol o  £1,500 a’r cyfle i berfformio yn Eisteddfod yr Arfordir Aur yn Awstralia.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Jodi deithio i ochr arall y byd gyda’i thad, Frank, i fod yn rhan o’r Gold Coast Musicale ddydd Gwener 18fed Hydref, lle cyflwynwyd amrywiaeth o berfformiadau cerddorol, dawns a lleisiol arbennig. Roedd y daith yn cael ei chyllido gan Eisteddfod yr Arfordir Aur gyda’r bwriad o hybu harmoni rhyngwladol ac i gydnabod y talentau eithriadol sy’n deillio o Langollen.

Swynodd Jodi’r gynulleidfa gyda’i llais meistrolgar a’i pherfformiadau o ddwy gân sioe eiconig, Don’t Rain on my Parade o’r sioe Funny Girl a I Dreamed a Dream o Les Misérables.  Fe ddychwelodd i’r llwyfan yn yr ail act i gwblhau ei pherfformiad gyda dau unawd pwerus, Defying Gravity o Wicked a dehongliad cofiadwy o Don’t Cry for Me, Argentina.

Wrth drafod ei phrofiad yn ymweld a pherfformio yn Awstralia, dyweddod Jodi: “Dwi wedi cael modd i fyw yn gweld yr Arfordir Aur gyda fy nhad, rydym ni wedi gwneud gweithgareddau gwych gan gynnwys caiacio a gwylio sioe fendigedig o’r enw Suave yn y Pink Flamingo.

“Mae hi wedi bod yn fraint cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol. Rwy’n ddiolchgar iawn o’r cyfle i berfformio rhai o’m hoff ganeuon sioe gerdd yn y Musicale ac rwy’n gobeithio i bawb fwynhau’r noson.”

Mae Eisteddfod yr Arfordir Aur yn rhoi llwyfan i dros 70,000 o gantorion a dawnswyr, 330 o fandiau a cherddorfeydd, 175 côr, bron i 1,500 o grwpiau dawns a 3,000 o ddawnswyr unigol. Rhoddir cyfleoedd anhygoel i berfformwyr ifanc o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Jodi Bird, mewn awyrgylch cyfeillgar a bywiog.

Dywedodd Judith Ferber, Rheolwr Cyffredinol Eisteddfod yr Arfordir Aur: “ “Rydym yn mwynhau darparu cyfleoedd i berfformwyr rhyngwladol ddod i arddangos eu talentau yn ein heisteddfod.

“Roedd perfformiad Jodi yn fendigedig ac yn ychwanegiad gwych i’n Musicale. Rydym yn falch iawn ei bod wedi ennill yn Llangollen ac wedi derbyn y cyfle i ganu yma.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen, Dr Edward Rhys-Harry: “Bob blwyddyn rydym ni’n croesawu’r byd i Gymru, ac mae’n wych bod Jodi wedi cael y cyfle i rannu ei thalent gerddorol anhygoel gyda’r byd.”

“Fe roddodd Jodi berfformiad cryf iawn i ni yn Llangollen ar gyfer cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd. Rydym yn falch iawn o glywed ei bod yn mwynhau ei hamser yn Eisteddfod yr Arfordir Aur.

“Mae derbyn y wobr fawreddog yma, a chael y cyfle i berfformio yn rhyngwladol, yn ysbrydoli gyrfaoedd cerddorol cyffrous iawn. Rydym yn falch o fedru rhoi’r cyfle i unigolion arddangos eu talent yn Llangollen a gyda’n ffrindiau yn Awstralia.”