Llangollen Yn Dechrau Derbyn Ceisiadau Ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol

Gŵyl gerdd, dawns a heddwch yn dathlu trwy lansio ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol, 21ain Medi

Mae tros 4,000 o artistiaid dawns, corawl ac offerynnol o bedwar ban byd yn perfformio a chystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bob blwyddyn. Yn 2020, fe fydd y gwobrau mwyaf nodedig yn cynnwys Côr Y Byd a Phencampwyr Dawns y Byd, gyda chatgoriau newydd hefyd yn cael eu lansio eleni.

Esboniodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Dr Edward-Rhys Harry: “Mae hybu neges heddwch yn flaenoriaeth i’r Eisteddfod trwy gydol wythnos yr ŵyl, felly rydym yn falch iawn o lansio ein cystadlaethau ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol. Mae hi wir yn wythnos ryfeddol ble mae ffrindiau oes yn cael eu creu ac mae Cymru yn croesawu’r byd i’n cartref hyfryd yn Llangollen. Ers tro byd, mae’r celfyddydau wedi bod yn ffordd o ddod a phobl o bob cenhedlaeth at ei gilydd, ac rydym wedi bod yn arddangos talentau ardderchog ers dros 70 mlynedd erbyn hyn.”

Bydd ceisiadau anghystadleuol a chystadlaethau grŵp yn agor ar ddydd Sadwrn 21ain Medi er mwyn nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol, neges sydd wrth galon yr ŵyl. Cynhaliwyd yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn 1947 gyda’r gobaith o ddefnyddio’r traddodiad Cymreig hanesyddol i leddfu ychydig o greithiau’r Ail Ryfel Byd. Y bwriad oedd hybu heddwch hir dymor rhwng y cenhedloedd trwy gyfrwng cerddoriaeth, chwedloniaeth a dawns – neges sydd mor berthnasol heddiw ag ydoedd bryd hynny.

Yn 2020, fe fydd yr Eisteddfod Ryngwladol yn cyflwyno sawl cystadleuaeth newydd i raglen yr ŵyl, gan gynnwys Corau Sioe, Grwpiau Dawns Gyfoes a Chyfansoddi Cerddorol. Bydd gan grwpiau hyd nes 29ain Tachwedd i gofrestru.

Ychwanegodd Dr Edward-Rhys Harry: “Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn brofiad cwbl unigryw sy’n cynnig amrywiaeth drawiadol o berfformiadau diwylliannol. Mae ein categorïau cystadleuol newydd yn ychwanegiadau cyffrous fydd yn arddangos talent newydd anhygoel o bob cwr o’r byd. Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl Estyn gwahoddiad i Gorau Sioe, Grwpiau Dawns Gyfoes a Chyfansoddwyr – a bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi a hybu datblygiad y celfyddydau.”

Fe fydd Cyfansoddi Cerddorol, un o elfennau newydd 2020, yn cynnig dau gyfle cyffrous i gyfansoddi darnau i gorau ieuenctid, cymysg a merched/dynion, neu i bumawd piano. Bydd pob enillydd yn derbyn gwobr ariannol ac yn cael gwahoddiad i berfformio’r darn yn yr Eisteddfod Ryngwladol. Gellir cofrestru i gystadlu rhwng 21ain Medi a 1af Ebrill.

Bydd ceisiadau unigol yn agor ddydd Gwener 6ed Rhagfyr, gan gynnwys cystadleuaeth Dawns Gyfoes Unigol newydd.

Am fwy o wybodaeth am yr holl gystadlaethau, neu i wneud cais ar lein, ewch i: www.eisteddfodcompetitions.co.uk