Mae tros 4,000 o artistiaid dawns, corawl ac offerynnol o bedwar ban byd yn perfformio a chystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bob blwyddyn.
Archifau Tag Côr y Byd
Côr y Byd 2018
Côr y Byd 2018: Côr Prifysgol Genedlaethol Singapore
Côr Prifysgol Genedlaethol Singapore yn Cipio Teitl Côr y Byd
Eisteddfod Ryngwladol 2018 yn dod i ben gyda brwydr gyffrous am deitlau mawreddog ‘Côr y Byd’ ac ‘Enillwyr Dawns y Byd’ – a pherfformiad Baroc ysgythrog gan y gwestai arbennig, Red Priest.
Daeth Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen 2018 [DYDD SADWRN 7 GORFFENNAF] i benllanw cyffrous, wrth i ddau o grwpiau rhyngwladol ennill yr anrhydeddau mwyaf o gystadlaethau dawns a chorawl yr ŵyl.
Yn dilyn rownd derfynol wefreiddiol, cafodd Côr Prifysgol Genedlaethol Singapore o Singapore eu henwi’n Gôr y Byd, tra cafodd grŵp dawns Al-lzhar High School Pondok Labu o Indonesia eu coroni’n Enillwyr Dawns y Byd.
Galwad olaf i grwpiau sydd eisiau lle yn Llangollen 2018
Y dyddiad olaf i grwpiau wneud cais i gystadlu yn yr ŵyl gerddoriaeth, dawns a heddwch 2018 fydd 24ain Tachwedd 2017
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar grwpiau o gantorion, dawnswyr ac offerynwyr talentog o bedwar ban byd i gofrestru cyn 24ain Tachwedd.i gystadlu yn yr ŵyl, fydd yn cael ei chynnal o 3ydd – 8fed Gorffennaf 2018.
Y côr cyntaf erioed i ganu yn Llangollen yn paratoi ar gyfer ymweliad hanesyddol
Mae’r côr cyntaf erioed i ganu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn bwriadu gwneud ymweliad hanesyddol â’r ŵyl wrth iddi ddathlu ei 70ain Eisteddfod.
Dros y blynyddoedd mae Côr Meibion Colne Valley, o ardal Huddersfield yn Lloegr, wedi cipio chwe gwobr gyntaf yn yr ŵyl hanesyddol, yn ogystal â phump ail wobr a dwy drydedd gwobr – er na chawson nhw lwyddiant yn ôl yn 1947.
Y côr 70 aelod, a sefydlwyd yn Slaithwaite yn 1922, oedd y cyntaf i gamu ar lwyfan yr Eisteddfod yn 1947 gan gystadlu yn erbyn y côr buddugol o Hwngari, a chorau o Sbaen, yr Eidal, Denmarc a’r Iseldiroedd yn ogystal â Chymru a Lloegr.