Y côr cyntaf erioed i ganu yn Llangollen yn paratoi ar gyfer ymweliad hanesyddol

Mae’r côr cyntaf erioed i ganu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn bwriadu gwneud ymweliad hanesyddol â’r ŵyl wrth iddi ddathlu ei 70ain Eisteddfod.

Dros y blynyddoedd mae Côr Meibion ​​Colne Valley, o ardal Huddersfield yn Lloegr, wedi cipio chwe gwobr gyntaf yn yr ŵyl hanesyddol, yn ogystal â phump ail wobr a dwy drydedd gwobr – er na chawson nhw lwyddiant yn ôl yn 1947.

Y côr 70 aelod, a sefydlwyd yn Slaithwaite yn 1922, oedd y cyntaf i gamu ar lwyfan yr Eisteddfod yn 1947 gan gystadlu yn erbyn y côr buddugol o Hwngari, a chorau o Sbaen, yr Eidal, Denmarc a’r Iseldiroedd yn ogystal â Chymru a Lloegr.

Yn awr, saith degawd yn ddiweddarach, mae cynrychiolwyr o’r côr wedi cael eu gwahodd yn ôl i fod yn westeion arbennig yn rowndiau terfynol Côr y Byd ar lwyfan 70ain Eisteddfod yr ŵyl eiconig.

Bydd yn ymweliad symbolaidd i’r côr, sydd wedi mwynhau perthynas hir gyda’r ŵyl lle gwnaeth y tenor mawr Luciano Pavarotti ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf fel rhan o Gorws Rossini o Modena yn 1955.

Bellach mae corau yn ymgiprys am Dlws Pavarotti yng Nghystadleuaeth Côr y Byd ac er bod Côr Colne Valley wedi methu cipio’r wobr yn y flwyddyn gyntaf, aeth ymlaen i hawlio tair buddugoliaeth o’r bron yn y 1960au a dod yn un o gorau meibion mwyaf llwyddiannus y DU gan ennill llu o wobrau ym Mhrydain a thu hwnt.

Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Colne Valley Thom Meredith

Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Colne Valley Thom Meredith

Ers i Thom Meredith ddod yn Gyfarwyddwr Cerdd 23 oed yn 1989, mae’r Côr wedi canu heb daflenni cerddoriaeth, felly mewn 26 mlynedd o ganu mae’r aelodau wedi perfformio dros 300 o ganeuon gwahanol ar eu cof – camp anhygoel ac unigryw.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod: “Byddem yn falch o weld Côr Colne Valley yma yn yr Eisteddfod unwaith eto.

“Mae’r Côr yn rhan o hanes y digwyddiad a bydd yma groeso cynnes bob amser yn Llangollen i’r rhai a ddechreuodd traddodiad nodedig cystadleuaeth Côr y Byd.”

Bydd dychwelyd i Langollen yn dod ag atgofion hapus yn ôl i David Hirst, aelod hynaf ond un y côr a ymunodd yn 22 oed ym mis Tachwedd 1960 – dim ond ychydig o fisoedd ar ôl y llwyddiant cyntaf yn Llangollen.

“Wrth gwrs, mae gennym gysylltiad arbennig gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a byddai’n dipyn o anrhydedd i ni ddychwelyd,” meddai.

“Yn ogystal â bod y côr meibion cyntaf i ganu yn yr Ŵyl, cafwyd rhes o dair buddugoliaeth o’r bron yn 1960, 1961, 1962 a chyfanswm o chwe buddugoliaeth i gyd, yn ogystal â phump ail wobr a dwy drydedd gwobr yn y 23 o ymweliadau a wnaeth y Côr ers 1947. Tipyn o gamp o feddwl ein bod yn cystadlu yn erbyn 19 neu 20 o gorau eraill.

“Mae cyfarfod â’r corau eraill a gwneud ffrindiau yn rhan bwysig o hyn i gyd. Mae’r cystadlu wedi arwain at ymweliadau cyngerdd cyfnewid gyda chorau o Gymru a chorau eraill ac mae’n ffordd wych o ddod i adnabod pobl. Mae llawer o gyfeillgarwch ymysg cantorion y corau.

“Mae gan y gystadleuaeth le annwyl iawn yn ein calonnau ac rydym yn dal i fod yn falch iawn o’r ffaith mai ni oedd y côr meibion ​​cyntaf i ganu yno.”

Yn ystod ei 93 mlynedd o fodolaeth dim ond pump arweinydd sydd wedi bod yn hanes y Côr, sy’n ymarfer yng Nghlwb Ceidwadol Slaithwaite ar nosweithiau Llun. Yr hiraf oedd George Stead a fu’n arwain y côr am 44 mlynedd ac ef oedd cyfansoddwr y darn hynod boblogaidd ‘Salm 126’ sy’n cael ei berfformio’n rheolaidd gan gorau meibion ​​ledled y wlad.

Bob blwyddyn mae’r côr yn cynnal cyngerdd Gŵyl Nadolig flynyddol, a fynychir gan dros 1,000 o bobl, yn Neuadd y Dref Huddersfield.

“Rydym yn gôr cystadlu a chôr cyngerdd. Rydym yn credu bod cymryd rhan mewn cystadlaethau yn ffordd sicr o gynnal, ac yn wir, gwella safonau uchel y Côr,” meddai David.

“Ar hyn o bryd mae yna 72 o aelodau cyflawn, ac fel arfer yn yr ymarferion wythnosol ac mewn cyngherddau mae tua 60 o gantorion. Mae yna gyfeillgarwch mawr o fewn y Côr ac mae’n wych cael cyfle i weld eich ffrindiau bob wythnos.”

Y llais hynaf, Frank Littlewood, sydd bellach yn 86 oed.

Y llais hynaf, Frank Littlewood, sydd bellach yn 86 oed.

Cyfeilydd swyddogol y Côr yw Keith Swallow, sy’n bianydd enwog yn ei rhinwedd ei hun, ac sydd wedi bod yn cyfeilio iddynt ers 1957. Yr aelod hiraf yw’r Parch John Radcliffe, a ymunodd yn yr un flwyddyn ac ef hefyd yw Caplan y Côr. Y canwr ieuengaf yw Tom Law, 24 oed, a’r hynaf yw Frank Littlewood, sy’n 86 oed.

Mae’r Côr wedi teithio yn Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon, Tsiecoslofacia a’r Unol Daleithiau, ac roedd rhai o’r teithiau hyn yn ymweliadau cyfnewid gyda chorau gan adeiladau ar gysylltiadau a gychwynnodd yn Llangollen.

Yn California yn 1984 cafodd y Côr ei ddal mewn daeargryn oedd yn mesur 6.2 ar raddfa Richter. Y pennawd yn adolygiad y papur newydd lleol o berfformiad cyngerdd y noson honno oedd ‘Côr o Loegr yn Symud y Ddaear!’.

“Mae’r Côr wedi perfformio gyda chantorion opera blaenllaw ar lwyfan Cyngheraddau ac mae hefyd wedi canu o flaen y Frenhines fel rhan o gôr cyfun yn Neuadd y Dref Leeds. Mae llawer o gyngherddau presennol y Côr yn cynnwys rhai o’r prif fandiau pres fel artistiaid gwadd,” ychwanegodd David.

Mewn blynyddoedd diweddar mae’r Côr wedi cystadlu a pherfformio yng Ngŵyl Corau Meibion Rhyngwladol Cernyw a gynhelir bob dwy flynedd, gan lwyddo i ennill y dosbarth côr mawr ddwywaith ac ym mis Mai hefyd enillodd y Côr Dlws Côr Mawr Gorau’r Ŵyl a Chôr Cyffredinol Gorau y Deyrnas Unedig.

Cafodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ei chynnal bob haf ers 1947 ac mae’n cael ei chydnabod fel un o wyliau cerddorol mwyaf ysbrydoledig y byd.

Bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf, y 70ain gŵyl i gael ei chynnal, yn cynnwys sêr fel Bryn Terfel, Katherine Jenkins a Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm a Blues a fydd yn dod â’r llen i lawr ar yr ŵyl ar nos Sul, 10 Gorffennaf.