Côr Prifysgol Genedlaethol Singapore yn Cipio Teitl Côr y Byd

Eisteddfod Ryngwladol 2018 yn dod i ben gyda brwydr gyffrous am deitlau mawreddog ‘Côr y Byd’ ac ‘Enillwyr Dawns y Byd’ – a pherfformiad Baroc ysgythrog gan y gwestai arbennig, Red Priest.

Daeth Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen 2018 [DYDD SADWRN 7 GORFFENNAF] i benllanw cyffrous, wrth i ddau o grwpiau rhyngwladol ennill yr anrhydeddau mwyaf o gystadlaethau dawns a chorawl yr ŵyl.

Yn dilyn rownd derfynol wefreiddiol, cafodd Côr Prifysgol Genedlaethol Singapore o Singapore eu henwi’n Gôr y Byd, tra cafodd grŵp dawns Al-lzhar High School Pondok Labu o Indonesia eu coroni’n Enillwyr Dawns y Byd.

Neidiodd aelodau o grŵp dawns Al-lzhar High School ar y llwyfan i gasglu Tlws Lucille Armstrong mewn môr o gyffro.

Yna ffrwydrodd y pafiliwn pan gyhoeddwyd Gôr Prifysgol Genedlaethol Singapore fel Côr y Byd 2018 gan gyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol, Vicky Yannoula.

Rhedodd y cantorion ar y llwyfan i gasglu Tlws Pavarotti, gan weiddi mewn dathliad gyda’r gynulleidfa a’r cystadleuwyr yn ymuno.

Yn ystod y seremoni gwobrwyo, cyflwynwyd Gwobr Jayne Davies Prize i’r arweinydd uchel ei glod Andrè van der Merwe am yr arweinydd mwyaf rhagorol, sy’n cael ei ddewis bob blwyddyn o’r holl gorau sy’n cystadlu yn rownd derfynol Côr y Byd.

Yn ystod hanner cyntaf y cyngerdd, a noddwyd gan GHP Legal, cafwyd perfformiadau gan Gôr Prifysgol Stellenbosh, Côr Prifysgol Genedlaethol Singapore, 441 Hz Chamber Choir a Chôr Meibion Froncysyllte, sef enillwyr y categorïau Côr Ieuenctid, Agored, Cymysg a Meibion yn y drefn honno, cyn i’r gwestai arbennig ddod i’r llwyfan.

Fe wnaeth y grŵp offerynnol Baroc, sydd wedi’u henwi ar ôl y gweinidog cringoch Antonio Vivaldi, berfformio amrywiaeth o gerddoriaeth gynnar ar recorders, ffidlau, soddgrwth a harpsicord, wedi’i blethu ag ymdeimlad sipsiwn.

Yn adnabyddus am eu perfformiadau dynamig, carismatig a gweledol, roedd y gynulleidfa ar ei thraed yn ystod perfformiad y grŵp a chawsant ei hannog i ymuno yn y miri a pheintio’r Pafiliwn Rhyngwladol yn goch, wrth i’r wythnos o gystadlaethau dwys ddod i ben.

Yn dilyn egwyl fer, cystadlodd Mother Touch Dance Group, Al-lzhar High School a Gabru Panjab de yn y gystadleuaeth Enillwyr Dawns y Bydgan swyno’r gwylwyr gyda pherfformiadau dawns cyffrous o ledled y byd. Ar ôl y perfformiadau, daeth Red Priest yn ôl i’r llwyfan ar gyfer rownd arall o guriadau Baroc cyflym, ynghyd â dewiniaeth dechnegol a dawn arddangos ryfeddol.

Yn dilyn y cyflwyniadau, daeth y cyngerdd i ben, fel sydd yn draddodiadol, gyda’r pafiliwn yn cydio dwylo i ganu Auld Lang Syne, i ddod â diwedd i gystadlaethau Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen 2018.

Yn siarad ar ôl y cystadlaethau yn ystod ei Heisteddfod Ryngwladol gyntaf fel Cyfarwyddwr Cerdd, dywedodd Vicky Yannuola:

“Dyna gystadlaethau syfrdanol a noson galonogol! Cafodd y beirniad waith pendroni yn dewis yr enillwyr.

“Roedd y cystadleuwyr corawl a dawns o safon fyd-eang ac fe wnaeth pob un perfformiad gyfareddu’r gynulleidfa. Roedd gweld penllanw misoedd ar fisoedd o baratoi yn cael ei berfformio o’n blaenau yn rhoi llawenydd mawr.

“Roedd hi’n agos iawn, ond roedd gan Al-lzhar High School a Mother Touch Dance Group ychydig yn fwy na’u cystadleuwyr, gan arddangos emosiwn, ysbryd ac angerdd ym mhob nodyn a symudiad. Hoffwn ddiolch i’r ddau ohonynt am eu cyfraniad i ŵyl eleni a’u llongyfarch ar eu buddugoliaeth.”

Parhaodd Vicky: “Roedd yr holl gystadleuwyr corawl a dawns o’r radd flaenaf ac roedd gweld penllanw misoedd ar fisoedd o baratoi yn cael ei berfformio o’n blaenau yn rhoi llawenydd mawr.

“Mae’r gystadleuaeth fawreddog yn denu corau byd-eang llwyddiannus i Langollen bob blwyddyn, ond roedd Côr Prifysgol Genedlaethol Singapore yn gwbl ragorol heno. Fe wnaethon nhw arddangos emosiwn, ysbryd ac angerdd ym mhob nodyn. Yn yr un modd, fe wnaeth Al-lzhar High School Pondok Labu gyfareddu’r Pafiliwn gyda phob symudiad. Hoffwn ddiolch i’r ddau ohonyn nhw am eu cyfraniad i ŵyl eleni a’u llongyfarch ar eu buddugoliaeth.”