Yn dilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth am y Coronafeirws, rydym wedi gwneud y penderfyniad i ohirio 74ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf 2020. Rydym yn awr yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid a’n hartistiaid i aildrefnu ar gyfer Llangollen 2021.
Cenhadaeth greiddiol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen oedd dod â phobl ynghyd trwy rannu profiadau cerddoriaeth a dawns; ac mae’n ddigalon gohirio yr hyn rydym yn ei wneud orau. Hoffem ymddiheuro i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ein penderfyniad i ohirio a diolch i gynulleidfaoedd am eu dealltwriaeth. Fel erioed, rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth.
Yn y diwedd, roedd yn hawdd gwneud y penderfyniad oherwydd ei fod yn ymwneud yn llwyr â’r bobl sydd wrth wraidd ein Eisteddfod Rhyngwladol. Ein cynulleidfaoedd anhygoel, ffyddlon a chefnogol, a ddaw bob blwyddyn i’n tref fechan sy’n swatio yn Nyffryn Dyfrdwy. Ein ‘Gorymdaith y Cenhedloedd’ – ein cyfranogwyr rhyngwladol, sy’n amrywio o Ddawnswyr Gwerin Loughgiel yng Ngogledd Iwerddon i Grŵp Dawns Mother Touch o Zimbabwe, o Gôr Ieuenctid Prifysgol Talaith East Tennessee i Johns’ Boys o Rhosllanerchrugog. Ein hartistiaid cyngerdd, ein perfformwyr llwyfan a’n masnachwyr, sydd wedi dangos amynedd a dealltwriaeth yn ystod cyfnod hynod galed ar draws eu sectorau. Ein grwpiau lleol, ein hysgolion a’n cymuned, sydd bob blwyddyn yn gweithio gyda ni i sicrhau mynediad a mwynhad o’n Eisteddfod i bawb. Ac yn olaf, ond nid lleiaf, ein tîm bychan o staff ymroddedig a bron i 800 o wirfoddolwyr, sy’n gweithio’n ddiflino bob blwyddyn i gyflawni’r gamp fawr o lwyfannu’r Eisteddfod Rhyngwladol hon. Y bobl yma yw’r rheswm pam ein bod yn gorfod gohirio, er mwyn eu hamddiffyn a’u cadw’n ddiogel.
Rydym yn cychwyn ar gyfnod o ansicrwydd digynsail. Yr un peth y mae eleni wedi’i ddysgu i ni yw pa mor ansefydlog y gall ansicrwydd fod, ansicrwydd ynghylch ein diogelwch, ein hiechyd a’n diogelwch ariannol. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein hartistiaid, ein staff a’n cymuned.
Dros y mis nesaf, byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid yr effeithir arnynt trwy e-bost neu dros y ffôn i roi cyngor ar y camau nesaf, ad-daliadau neu’r opsiynau aildrefnu. Oherwydd y nifer uchel o ymholiadau a’r gofyniad i weithio o gartref, rydym yn annog cwsmeriaid i beidio â chysylltu â ni ond byddwn mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl a byddwn yn ymdrechu i ddarparu’r gwasanaeth cwsmeriaid mwyaf effeithlon posib.
Byddwn hefyd yn postio’r wybodaeth ddiweddaraf ar ei gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin yma.