Diweddaru: Covid-19 Llangollen 2020/21

Yn dilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth am y Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi penderfynu gohirio 74ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf 2020. Bydd fformat Llangollen 2021 yn dibynnu ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus a gofynion y llywodraeth ar gyfer cynnal digwyddiadau torfol. Ar hyn o bryd nid yw’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gwyliau eto ond rydym yn bwriadu bwrw ymlaen a byddwn yn ceisio gwneud ein proses ymgeisio mor hyblyg â phosibl i alluogi cyfranogwyr i fynychu.

Cwestiynau Cyffredin Deiliad Tocyn

(Sgroliwch i lawr Cwestiynau Cyffredin Cyfranogwyr)

Mae gennyf docynnau ar gyfer Llangollen 2020, sut ddylwn i gysylltu â chi i gael ad-daliad/aildrefnu?

Yn ystod y cyfnod clo, mae’r rhan fwyaf o’n staff wedi bod ar ffyrlo ac mae’r rhai sy’n gweithio wedi bod yn gwneud hynny o’u cartrefi. Wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio, rydym yn gobeithio dod yn ôl at ein gilydd eto yn fuan, fodd bynnag, ar hyn o bryd rydym yn parhau i weithio o bell. Ym mis Ebrill, gwnaethom gysylltu â deiliaid tocynnau trwy e-bost ac rydym wedi bod yn gweithio ein ffordd trwy ymholiadau ac ad-daliadau tocynnau. Os ydych wedi bod yn ceisio cysylltu â ni, byddwch yn amyneddgar â ni os gwelwch yn dda. Gallwch naill ai anfon neges atom ar y cyfryngau cymdeithasol neu anfon e-bost at info@llangollen.net.

Os na allaf wneud y dyddiad wedi’i aildrefnu yn 2021, a oes gen i hawl i gael ad-daliad?

Mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn o bris eich tocyn yn ôl i’ch dull talu gwreiddiol (yn achos arian parod, siec neu gardiau sydd wedi dod i ben byddwn yn cysylltu â chi i drefnu opsiynau talu amgen). Fodd bynnag, nodwch, bydd yr ad-daliad am bris y tocyn yn unig gan nad oes modd ad-dalu unrhyw gostau ychwanegol fel postio a ffioedd comisiwn. Mae hyn oherwydd ein bod eisoes wedi talu’r taliadau a godwyd trwy brosesu’ch archeb wreiddiol neu bostio’ch tocynnau allan.

Rwyf wedi archebu tocynnau trwy asiant docynnau (Ticketmaster, Gigantic) pwy fydd yn cysylltu â mi ynghylch ad-daliad neu gyfnewid?

Mae’r holl docynnau a brynir trwy asiantau yn cael eu delio efo trwy’r asiantau. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid a dylech dderbyn nodyn gan asiantau perthnasol yn eich hysbysu o’r gohirio a’r camau nesaf.

******

Cwestiynau Cyffredin Cyfranogwyr

Isod ceir rhai Cwestiynau Cyffredin i gynorthwyo Cyfranogwyr sy’n dymuno mynychu Llangollen 2021.

Beth fydd y dyddiadau ar gyfer 2021?

Cynhelir yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen nesaf rhwng y 6ed a’r 11eg o Orffennaf 2021.

Sut mae cael diweddariadau rheolaidd ar wneud cais am Langollen 2021?

Os hoffech chi ymuno â’n rhestr bostio, tanysgrifiwch i’n cylchlythyrau yn https://eisteddfodcompetitions.co.uk/ neu anfonwch eich e-bost at music@llangollen.net. Gallwch hefyd ymuno â’n tudalen Facebook Cyfranogwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfranogwyr ac Eisteddfod Llangollen

Pryd fydd ceisiadau Grŵp yn agor ar gyfer 2021?

Rydym yn gobeithio y bydd ceisiadau’n agor rhwng canol a diwedd yr hydref. Fe’ch hysbysir pan fydd ceisiadau ar gael os ydych ar ein rhestr bostio.

A fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Grŵp yn dal i fod ym mis Tachwedd 2020?

Rydym yn bwriadu rhoi o leiaf 6 wythnos i grwpiau wneud cais unwaith y bydd ceisiadau wedi agor. Felly mae’n debygol y gall y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i grwpiau fod yn hwyrach na’r hyn a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

Pryd fydd ceisiadau Unigol yn agor ar gyfer 2021?

Rydym yn gobeithio y bydd ceisiadau’n agor yn y Flwyddyn Newydd. Fe’ch hysbysir pan fydd ceisiadau ar gael os ydych ar ein rhestr bostio.

A fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Unigol ym mis Mawrth 2021 o hyd?

Rydym yn bwriadu rhoi o leiaf 6 wythnos i grwpiau wneud cais unwaith y bydd ceisiadau’n agor. Felly mae’n debygol y gall y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Unigol fod yn hwyrach na’r hyn a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

A oes angen i mi ailymgeisio os cefais fy newis eisoes ar gyfer 2020, ond yn methu ei gwneud hi oherwydd COVID-19 a chanslo Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen?

Oes, bydd angen i chi ailymgeisio ar gyfer Eisteddfod 2021. Os cawsoch eich dewis ar gyfer 2020, bydd eich cais 2021 yn rhad ac am ddim fel y trafodwyd yn eich e-bost canslo. Os na wnaethoch chi dalu’r tâl o £100 bydd yn rhaid i chi dalu am eich cais yn 2021.

A fyddaf yn cael fy newis yn awtomatig ar gyfer 2021 os cefais fy newis ar gyfer 2020?

Na, yn anffodus ni chewch eich dewis yn awtomatig ar gyfer 2021. Bydd angen i chi ailymgeisio ar gyfer Eisteddfod 2021 a bydd eich cais yn mynd ymlaen i’r broses ddewis.

A fydd cystadleuaeth 2021 yr un peth â 2020?

Bydd y fformat ar gyfer 2021 yn dibynnu ar ganllawiau’r Llywodraeth ar gyfer gwyliau. Bydd unrhyw newidiadau i’r gofynion yn cael eu hysbysu pan fydd ceisiadau’n agor.

A fydd Llety ar gael i’w archebu?

Bydd pecynnau llety ar gael ar gyfer 2021. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru ddiwedd yr hydref a bydd gwybodaeth am yr opsiynau a gynigir ar gael pan fydd ceisiadau’n agor.

A fydd cludiant ar gael i’w archebu?

Bydd pecynnau cludiant ar gael ar gyfer 2021. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru ddiwedd yr hydref?

A oes gen i hawl i gael ad-daliad llawn o fy nhâl ymgeisio ar gyfer 2020?

Roedd y ffi ymgeisio ryddych chi wedi’i thalu am 2020 yn gyfraniad at ein costau gweinyddol sy’n gysylltiedig gyda phrosesu’ch cais a rhedeg ein proses ddethol. Os yw’ch amgylchiadau yn caniatau, byddai’n ein cynorthwyo’n fawr, os byddech chi’n caniatau inni gadw’r ffi hon. Fel diolch am y gefnogaeth hon, bydd pob ymgeisydd a dalodd am 2020 nad yw’n gofyn am ad-daliad, yn gallu gwneud cais eto yn 2021 yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn dderbyniol i chi, anfonwch e-bost atom ar info@llangollen.net a byddwn yn trefnu ad-daliad.