Diwrnod Dawns Rhyngwladol yn Nhŷ Pawb

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal gweithdy ‘Diwrnod Dawns Rhyngwladol’ am ddim i bob oed a gallu yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ar ddydd Sadwrn y 1af o Chwefror, rhwng 11yb ac 1yp.

Arweinir y gweithdy gan NEW Dance, y sefydliad dawns cymunedol, a fydd yn archwilio traddodiadau dawns o Sbaen, Gwlad Groeg, Rwsia a’r Deyrnas Unedig, er mwyn rhoi rhagflas o weithgareddau wythnos yr Eisteddfod Ryngwladol a’i chenhadaeth o ddod â heddwch a chytgord trwy gerddoriaeth a dawns. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ddysgu 3 neu 4 dawns mewn sesiwn hwyliog i bob oed, o neiniau a theidiau i blant*, a chyfle i rannu eu gwaith ar ddiwedd y gweithdy yn Sgwâr y Bobl, Tŷ Pawb.

Bydd cyfle hefyd i ddarganfod mwy am raglen gyngherddau gyffrous yr Eisteddfod Ryngwladol, a’r cystadlaethau dawns ac unigol newydd sbon ar gyfer 2020.

Os hoffech ymuno â ni ar gyfer y sesiwn hwyliog yma i’r teulu cyfan, gallwch neilltuo lle ac archebu eich tocyn trwy Eventbrite yma.

*Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.