Eisteddfod Llangollen yn Lansio Rhaglen 2020

Yr wythnos hon, fe fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cyhoeddi ei raglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020), gan hefyd agor ei system archebu cynnar ar gyfer y Nadolig.

Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y  74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd, cyn dod i ben llanw gyda gwobr fawreddog Côr y Byd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry, “Rydym yn falch iawn o lansio ein rhaglen o ragoriaeth gerddorol ac amrywiaeth rhyngwladol. Mae’n nod cyson gennym i ddod ag artistiaid cerddorol a dawns gorau’r byd ynghyd yma yng Nghymru, i berfformio yn ysbryd cyfeillgarwch.

“Mae’r digwyddiadau dyddiol yn adlewyrchu ein gweledigaeth o hybu heddwch trwy gerddoriaeth ac mae’r cyngherddau nos yn cynnig rhywbeth i bawb.”

Agorir rhaglen cyngherddau 2020 ddydd Mawrth 7fed Gorffennaf gyda dau o fawrion y byd canu clasurol, Aled Jones a Russell Watson.  Ar nos Fercher 8fed Gorffennaf fe fydd Fusion, gydag ymddangosiad gan y Manchester Collective a’u sioe Sirocco, yn cynnig noson unigryw gyda naws yr Eisteddfod Ryngwladol yn ei hanfod wrth i elfennau cerddorol o ddiwylliannau gwahanol eistedd ochr yn ochr. Fe fydd brenhines ‘Soul’ Prydain, Beverley Knight, yn perfformio yn Llangollen am y tro cyntaf ar y nos Wener lle disgwylir sioe fyrlymus. Yr enillwyr gwobrau BRIT, James Morrison a Will Young, fydd ar frig lein-yp  Llanfest 2020, mewn diweddglo gwych arall i wythnos yr Eisteddfod.

Croesawir dros 4,000 o berfformwyr i’r ŵyl flynyddol dros wythnos yr Eisteddfod, sy’n ddathliad cywrain o gerddoriaeth, diwylliant, creadigrwydd a chydweithio rhyngwladol. Mae’n hwb allweddol i dwristiaeth ddiwylliannol Gogledd Cymru gan ddenu dros 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae lein-yp y cyngherddau nos yn cynnwys:

Nos Fawrth 7fed Gorffennaf – Back in Harmony: Aled Jones a Russell Watson
£42 / £37

Yn dilyn eu taith llwyddiannus In Harmony yn 2019, daw dau o leisiau mawr y byd clasurol ynghyd i gyflwyno noson sy’n arddangos cyfoeth o emynau, caneuon operatig a chaneuon poblogaidd – o’r gampwaith gyffrous Funiculì, Funiculà i’r heddychlon The Lord is My Shepherd.

Nos Fercher 8fed Gorffennaf – Fusion: Uniting Cultures Through Music
£25

Wrth graidd yr Eisteddfod Ryngwladol mae dathliad o ddiwylliannau gwahanol sy’n dod at ei gilydd trwy gerddoriaeth a dawns. Fe fydd y gyngerdd hudolus yma wedi selio ar y thema ‘undod’, a bydd sawl elfen gerddorol o wledydd gwahanol yn gwau at ei gilydd.

Fe fydd ail ran y noson yn cynnwys ymddangosiad gan Manchester Collective gyda rhan arbennig o’u sioe lwyddiannus, Sirocco, gwead trydanol o Gerddoriaeth Glasurol Orllewinol a rhythmau Affrica.

Nos Iau 9fed Gorffennaf – Cyngerdd i Heddwch
£27/£20

Fe fydd Cyngerdd i Heddwch, sy’n digwydd am y tro cyntaf erioed, yn pwysleisio gwerthoedd sylfaenol yr Eisteddfod Ryngwladol – heddwch rhyngwladol, ewyllys da a dealltwriaeth. Yn y cyngerdd egnïol a dyrchafol hwn bydd Terry Waite CBE yn cyflwyno Gorymdaith y Cenhedloedd, cyflwynir y Neges Heddwch blynyddol, Gwobr Heddwch y Rotary a bydd perfformiadau gan gyfranwyr rhyngwladol a gwesteion arbennig.

Nos Wener 10fed Gorffennaf – BK25: Beverley Knight
£40/£35

Yn ei hymddangosiad cyntaf yn Llangollen, fe fydd brenhines ‘Soul’ Prydain, Beverley Knight, yn meddiannu’r llwyfan nos Wener mewn sioe egnïol a byrlymus.

Gyda thair gwobr MOBO a gwobr Cyrhaeddiad Bywyd gan yr Urban Music Awards o dan ei belt, mae Beverley yn fwyaf adnabyddus am ei senglau byd enwog Greatest Day, Shoulda Woulda Coulda a Come As You Are, a hefyd am ei hymddangosiadau yn sioeau West End The Bodyguard a Memphis.

Nos Sadwrn 11eg Gorffennaf – Côr y Byd
£30/£25

Paratowch am noson i’w chofio gyda cherddoriaeth, dawns a lleisiau corawl gorau’r byd. Fe fydd corau rhagorol yn perfformio a’n mynd benben am Dlws Pavarotti a theitl Côr y Byd. Coronir hefyd Bencampwyr Dawns y Byd, ynghyd â Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, sy’n cael ei ychwanegu i gyngerdd nos Sadwrn am y tro cyntaf.

Dydd Sul 12fed Gorffennaf – Llanfest gyda James Morrison a Will Young
£49.50

Daw Llangollen 2020 i ben gyda Gŵyl Llanfest ar y dydd Sul.  Ar frig y lein-yp fydd yr enillwyr Gwobrau BRIT, James Morrison a Will Young, gyda’r ddau artist yn cyflwyno setiau unigol o’u caneuon fwyaf poblogaidd a deunydd o’u halbymau diweddaraf. Mae Llanfest wedi sefydlu ei hun fel un o hoff wyliau’r haf erbyn hyn, gyda llwyfannau agored yn arddangos cerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd, ac awyrgylch ymlaciol i gefndir bendigedig Dyffryn Dyfrdwy.

Mae archebu cynnar ar gyfer holl gyngherddau’r ŵyl yn agor o 9.30yb ddydd Llun 9fed Rhagfyr i Ffrindiau’r Eisteddfod a’r rhai sy’n dymuno archebu tocyn wythnos i’r Ŵyl. Bydd gweddill y tocynnau ar gael i’r cyhoedd o 9.30am ddydd Mawrth 17eg Rhagfyr ar lein o www.llangollen.net neu trwy’r Swyddfa Docynnau. Gellir cofrestru fel Ffrind i’r Eisteddfod yn ystod y cyfnod archebu cynnar i gael mynediad i’r tocynnau blaenoriaeth, trwy alw’r Swyddfa Docynnau ar   01978 862001.