Llywodraeth Cymru : Cymorth ar gyfer digwyddiadau diwylliannol yr haf

Mae dau o ddigwyddiadau diwylliannol blaenllaw Cymru wedi cael cymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu gydag effaith COVID-19.

 

Bydd dros £800,000 o gyllid yn cael ei rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i helpu gyda pharhad busnes yn ystod 2020, gan gynnwys cynllunio a pharatoi  ar gyfer yr eisteddfodau yn 2021.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: “Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddau ddigwyddiad o bwys yng nghalendr digwyddiadau Cymru, sy’n darparu llwyfan gwych i arddangos ein celfyddydau a’n diwylliant.  Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r trefnwyr i’w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn ac i’w helpu i greu dyfodol cynaliadwy.

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ar ei ffurf bresennol wedi bod yn cynnal y digwyddiad ers ymhell dros gan mlynedd. Ar adegau anodd fel hyn, mae’n bwysig cydnabod a chynnig treftadaeth ddiwylliannol gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod a chynnig treftadaeth ddiwylliannol gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â meithrin artistiaid Cymraeg y dyfodol a darparu llwyfan ar eu cyfer a chefnogi celfyddydwaith a llenyddiaeth newydd.”

Dywedodd Rhys Davies, Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru fel y gallwn barhau i hyrwyddo diwylliant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a lledaenu’r neges heddwch ledled y byd. Bydd heriau i bob gŵyl yn y dyfodol, felly cydweithio yw’r allwedd. ”