**Wedi ganslo** (Diweddariad 16/3/20) Eisteddfod Llangollen yn dathlu ‘cyfeillgarwch, cytgord ac ewyllys da’ wrth gynnal ei hail Gymanfa Ganu flynyddol

Cymanfa Ganu

DIWEDDARIAD 16/3/20

***Rydym wedi bod yn cadw llygad ar y Coronafeirws (COVID-19) wrth i’r sefyllfa ddatblygu ac wedi dod i’r penderfyniad i ganslo ein Cymanfa Ganu ar 27 Mawrth yn Eglwys Sant Collen. Bydd cwsmeriaid a oedd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y Cymanfa Ganu yn cael eu had-dalu.

Byddwn yn parhau i fonitro a chyfathrebu â chi ynghylch ein cynlluniau ar gyfer Llangollen 2020 ym mis Gorffennaf wrth i’r sefyllfa ddatblygu.***

_____________________________________________________________________________________

Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn bwriadu cynnal noson arall o berfformiadau cerddorol i ddathlu diwylliant Cymru a chodi arian ar gyfer gŵyl 2020. Bydd Cymanfa Ganu o ganu emynau Cymreig, yn cael ei chynnal ar nos Wener y 27ain o fis Mawrth am 7yh yn Eglwys Sant Collen, Llangollen.

Bydd y noson yn croesawu amrywiaeth o berfformwyr lleol talentog, gan gynnwys côr cymysg o Wrecsam, y James Lambert Singers. Ffurfiwyd y côr hwn dros 50 mlynedd yn ôl, ac maent yn dod â sain unigryw i ganu corawl yng Nghymru. Maent yn adnabyddus am eu repertoire eang o gerddoriaeth, ac mae eu caneuon yn cynnwys hen ffefrynnau o’r 1940au, a chaneuon poblogaidd heddiw. Mae’r côr wedi ymddangos ar amryw o lwyfannau canu yn yr Almaen ac maent hyd yn oed wedi cymryd rhan mewn Gymanfa Ganu yn Columbus, Ohio, UDA.

Bydd y seremoni hefyd yn cynnwys perfformiadau gan gôr merched Carrog, Lleisiau’r Afon, a berfformiodd yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf y llynedd, yn ogystal ag eitemau cerddorol gan delynores Gymreig leol, Angharad Huw, a chanu cynulleidfaol yn Gymraeg a Saesneg.

Mae digwyddiadau fel y rhain yn helpu i hyrwyddo ethos yr Eisteddfod ar hyd y flwyddyn. Dywedodd y Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, Elise Jackson: “ei bwrpas allweddol yw tynnu sylw at negeseuon creiddiol yr Eisteddfod o gyfeillgarwch, cytgord ac ewyllys da, wrth ddod â’r gymuned ynghyd i ddathlu ysbryd diwylliant Cymru.”

Arweinir y Gymanfa Ganu gan Gyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Dr Edward-Rhys Harry, sydd wedi arwain corau ledled y byd, gyda’r organydd Owen Roberts yn cyfeilio. Dywedodd Dr Edward-Rhys Harry: “Bydd y digwyddiad hwn yn helpu i godi arian hanfodol ar gyfer yr Eisteddfod, gan sicrhau y gallwn groesawu cymaint o gystadleuwyr rhyngwladol â phosib i Langollen ym mis Gorffennaf.

“Mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad traddodiadol na ddylid ei golli, ac mae’n wych gweld perfformwyr lleol mor ddawnus yn rhoi o’u hamser i gefnogi’r achos hwn.”

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Llangollen, Dr Rhys Davies: “Os bydd unrhyw beth yn debyg i Gymanfa Ganu’r llynedd yna mae’n addo bod yn noson wych arall o ddathliad cerddorol, a dyna yn ei hanfod yw’r Eisteddfod.”

Mae tocynnau ar gyfer y Gymanfa Ganu ar gael o Swyddfa Docynnau’r Eisteddfod trwy ffonio 01978 862001, ar-lein yma neu o’r Ganolfan Ymwelwyr yn Llangollen. Pris y tocynnau yw £7 i oedolion a £2 i blant (am ddim i blant o dan 5 oed). Mae hyn yn cynnwys mynediad, rhaglen a lluniaeth draddodiadol Gymreig yn neuadd yr eglwys ar ôl y digwyddiad.