Llangollen 2020 yn cyhoeddi première y DU o waith arbennig gyda’r Soprano o Gymru Elin Manahan Thomas a pherfformiad ‘Yn Arbennig i Langollen’ gan Only Men Aloud

Elin Manahan Thomas

Yr wythnos hon mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn datgelu mwy ar ei rhaglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020) fydd yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn y DU o Magnificat gan Bobbi Fischer gyda’r unawdydd Elin Manahan Thomas a pherfformiad ‘Yn Arbennig i Langollen’ gan Only Men Aloud.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Dr Edward-Rhys Harry:
Mae’n dipyn o bluen yn ein het i gael perfformiad cyntaf y DU o Magnificat gan Bobbi Fischer yn Llangollen 2020 ynghyd â gallu croesawu’r eithriadol Elin Manahan Thomas yn ôl i’r ŵyl. Mae hefyd wedi bod yn bleser gweithio’n agos gydag Only Men Aloud i greu repertoire arbennig yn seiliedig ar ein cenhadaeth sylfaenol o heddwch a chytgord ac mae’n argoeli y bydd yn berfformiad hyfryd ac unigryw gan y côr poblogaidd hwn.

Mae Asio (dydd Mercher 8 Gorffennaf) yn gweld elfennau cerddorol eclectig o wahanol ddiwylliannau yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd. Bydd rhan gyntaf y noson yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf yn y DU o Magnificat, sef gwaith y cyfansoddwr Bobbi Fischer o’r Almaen, lle mae’r gwaith corawl traddodiadol hwn wedi’i asio â rhythm a harmonïau America Ladin gyda Samba, Rhumba, Bossa Nova a Cha Cha.

Yn y gosodiad hwn o emyn mawl efengyl Luc, Elin Manahan Thomas, fydd y soprano unigol sy’n canu fel llais Mair. Disgrifiwyd Elin Manahan Thomas fel un o sopranos mwyaf eithriadol ei chenhedlaeth, a rhyddhaodd ei halbwm cyntaf Eternal Light yn 2017 ac ers hynny mae wedi perfformio mewn llawer o wyliau a lleoliadau mwyaf mawreddog y byd ac fe’i gwahoddwyd i berfformio yn y Briodas Frenhinol ym Mai 2018. Y tro diwethaf i Elin ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Ryngwladol oedd yn
2017 i berfformio yng nghyngerdd cofiadwy Christopher Tin, Calling All Nations.

Bydd ail ran Asio yn cynnwys y Manchester Collective gyda’u sioe Sirocco, sydd wedi cael canmoliaeth uchel gan y beirniaid, lle mae naw chwaraewr yn perfformio cyfuniad trydanol o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr clasurol fel Haydn a Mozart a cherddoriaeth draddodiadol Affrica.

Y diwrnod canlynol, ar nos Iau 9 Gorffennaf, cynhelir y Cyngerdd Heddwch fydd yn cynnwys perfformiad unigryw ‘Yn Arbennig i Langollen’ gan y Côr Meibion o Gymru Only Men Aloud.

Mae Only Men Aloud wedi dod yn adnabyddus am eu lleisiau cryf a’u repertoire amrywiol ac eclectig. Maent wedi ennill Last Choir Standing ar BBC One, Gwobr Clasurol y Brits am Albwm Orau’r Flwyddyn, wedi perfformio ddwywaith yn sioe’r Royal Variety Performance, ac wedi canu yn Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012 ar yr union foment y cafodd y Fflam Olympaidd ei chynnau. Ar gyfer Cyngerdd Heddwch byddant yn perfformio rhaglen arbennig o ganeuon o amgylch thema heddwch.

Bydd y cyngerdd ysbrydoledig a bywiog hwn hefyd yn cynnwys Gorymdaith y Cenhedloedd a gyflwynir gan Lywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite CBE, enillydd Offerynnwr Ifanc 2019 George Todica (pianydd), y Neges Heddwch flynyddol a gaiff ei pherfformio gan blant ysgol lleol, Gwobr Heddwch y Rotari a pherfformiadau gan gyfranogwyr rhyngwladol.

Mae Asio a Cyngerdd Heddwch yn rhan o gyfres cyngherddau nos yr Eisteddfod, sydd eleni hefyd yn cynnwys Yn Ôl Mewn Harmoni gydag Aled Jones a Russell Watson, BK25 gyda Beverley Knight, a chyngerdd cystadleuaeth Côr y Byd sy’n ddiweddglo cyffrous i’r ŵyl. Daw’r wythnos i ben ddydd Sul gyda gŵyl gerddoriaeth undydd Llanfest gyda’r ddau brif artist James Morrison a Will Young.