Archifau Tag Cerdd

Llangollen yn derbyn ceisiadau ar gyfer 2018

Gŵyl gerddoriaeth, dawns a heddwch yn dechrau cymryd enwau ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol 2018

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar gantorion, dawnswyr ac offerynwyr talentog o Gymru i ymuno âg ymgeiswyr rhyngwladol eraill a chofrestru i gystadlu yn yr ŵyl, fydd yn rhedeg o 3-8 Gorffennaf 2018.

Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd benben am sawl teitl adnabyddus gan gynnwys Pencampwyr Dawns y Byd, Llais Rhyngwladol y Dyfodol, Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd a prif deitl yr ŵyl, Côr y Byd.

(rhagor…)

Darnau o waith gan Gyfarwyddwyr Cerdd Cyntaf a Chyfredol i’w clywed wrth i’r Eisteddfod ddathlu’r 70.

Bydd darnau o gerddoriaeth wedi eu cyfansoddi gan Gyfarwyddwyr Cerdd cyntaf a Chyfarwyddwr Cerdd cyfredol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael eu perfformio fis nesaf,  fel rhan o arlwy yr ŵyl eiconig hon sydd yn dathlu’r 70 eleni.

Yn y cyngerdd mawreddog ar y nos Iau, bydd Ffanffer fyrlymus wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan y Cyfarwyddwr Cerdd presennol, Eilir Owen Griffiths yn cael ei ddilyn gan berfformiad o gân o waith  W S Gwynne Williams.

Dywedodd Eilir: “Fel teyrnged i W.S Gwynne Williams bydd Bryn Terfel yn canu Tosturi Duw, ac mi fydd perfformiad cyntaf o’m Ffanffer  i’w chlywed , sydd yn ddathliad o’r achlysur arbennig hwn.” (rhagor…)

Merle a’i marimba!

Mae cael hyd i farimba wedi peri penbleth a thipyn o gur pen i Merle Hunt yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon.

Mae’r marimba yn offeryn MAWR! Offeryn taro ydio sydd yn wyth troedfedd o hyd ac yn pwyso dros 350 pwys.  Cydlynydd y cystadleuwyr tramoryn yr eisteddfod yw Merle, a’r dasg a gafodd oedd dod o hyd i farimba, a lle i gadw’r offeryn yn ystod yr ŵyl.

Mae’n offeryn sydd werth hyd at £10,000, ac roedd gofyn cael un ar gyfer Elise Liu.  Roedd Elise yn un o ddwy y mae’r Hong Kong Schools Music and Speech Association yn eu hanfon eleni i gystadlu yn Llangollen.  Maent yn anfon cystadleuwyr yn flynyddol. (rhagor…)