Gŵyl gerddoriaeth, dawns a heddwch yn dechrau cymryd enwau ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol 2018
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar gantorion, dawnswyr ac offerynwyr talentog o Gymru i ymuno âg ymgeiswyr rhyngwladol eraill a chofrestru i gystadlu yn yr ŵyl, fydd yn rhedeg o 3-8 Gorffennaf 2018.
Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd benben am sawl teitl adnabyddus gan gynnwys Pencampwyr Dawns y Byd, Llais Rhyngwladol y Dyfodol, Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd a prif deitl yr ŵyl, Côr y Byd.
Cynigir gwobrwyau ariannol o hyd at £6,000 mewn cystadlaethau penodol, yn ogystal â medalau rhyngwladol a’r cyfle i gantorion sioe gerdd ennill cyfle unwaith mewn oes i berfformio yn Eisteddfod y Gold Coast yn Awstralia.
I ychwanegu at gystadlaethau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, fe fydd rhaglen 2018 yn cyflwyno categorïau cwbl newydd. Mae’r rhain yn cynnwys dau unawd newydd i berfformwyr o dan 19 oed. Fe fydd y rhaglen hefyd yn adeiladu ar gystadlaethau a lansiwyd yn 2017, fel Gwobr Jayne Davies am yr arweinydd gorau yng Nghôr y Byd a’r Grŵp Acapella Rhyngwladol
Mae’r ŵyl adnabyddus wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers 1947 yn nhref brydferth Llangollen – gan groesawu 4,000 o berfformwyr a chymaint â 50,000 o ymwelwyr i’r Pafiliwn Rhyngwladol a’r maes cyfagos. Mae’n llwyddo i ddod â pherfformwyr o bedwar ban byd at ei gilydd i ganu a dawnsio mewn cymysgedd unigryw o gystadlaethau, perfformiadau, heddwch a chyfeillgarwch.
Bob blwyddyn mae’r rhaglen yn cyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Côr y Byd, sy’n gwobrwyo côr gorau’r ŵyl ac sydd wedi lansio sawl gyrfa yn y gorffennol. Yn 1995, roedd y côr buddugol yn hanu o dref Modena yn yr Eidal ac enw un aelod oedd Luciano Pavarotti – y tenor byd-enwog. Fe ychwanegodd ei enw i darian y gystadleuaeth yn 2005 fel arwydd o’i werthfawrogiad o’r ŵyl a’i dylanwad ar ei yrfa.
Fe ellir cofrestru ar gyfer y cystadlaethau corawl, ensemble a dawns hyd nes Ddydd Gwener 29 Medi, ac fe fydd gan unawdwyr tan Ddydd Gwener 2il Mawrth 2018 i gofrestru.
Gwahoddir geisiadau gan berfformwyr sydd eisiau dilyn ôl traed perfformwyr anghystadleuol i berfformio ar un o lwyfannau’r Eisteddfod hefyd, a bydd modd cofrestru hyd nes Ddydd Gwener 24ain Tachwedd 2017.
Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies: “Mae cystadlaethau Eisteddfod Llangollen yn cynnig cyfle i berfformwyr o bob cwr o’r byd ymddangos ar lwyfan rhyngwladol gyda rhai o gerddorion a dawnswyr mwyaf talentog y byd.
“Gyda thros 20 o gystadlaethau, mae cyfle i bob math o berfformiwr o sawl disgyblaeth ac oedran i gael bod yn rhan o’r cyffro.
“Rydym yn anelu at ymestyn ein harlwy bob blwyddyn ac mae’r gystadleuaeth Arweinydd Eithriadol a’r Grŵp Acapella Rhyngwladol yn ychwanegiadau cyffrous iawn i’r rhaglen. Allwn ni ddim aros i weld pwy fydd yn cofrestru y tro hwn.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cystadlaethau neu i wneud cais ar wefan yr Eisteddfod, ewch i: http://eisteddfodcompetitions.co.uk/